Bydd grŵp o ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith yn dechrau ar eu taith o Dyddewi ddydd Iau (Hydref 21) ac yn cyrraedd Trefdraeth ar gyfer rali Nid yw Cymru ar Werth ar draeth y Parrog ddydd Sadwrn (Hydref 23).
Fe wnaeth yr ymgyrchwyr Hawl i Fyw Adra orymdeithio 18 milltir ar droed o Ben Llŷn i Gaernarfon ddydd Sadwrn (25 Medi) am yr ail dro, ar ôl gwneud hynny am y tro cyntaf flwyddyn yn ôl.
Maen nhw wedi galw ar arweinydd y Cyngor Sir a Phwyllgor ar y Cyd Gwynedd a Môn i sicrhau adolygiad ar frys i’r Cynllun Datblygu Lleol er mwyn ei atgyfnerthu i warchod cymunedau lleol a’r Gymraeg.
Ond neges Cymdeithas yr Iaith yw bod ail dai a thai haf yn effeithio ar gymunedau ar draws y sir, ac nad problem yng ngogledd y sir yn unig mo hon.
‘Codi eu llais’
“Rali i bobol Sir Benfro godi eu llais yw hwn felly fe wnaethon ni benderfynu trefnu taith gerdded o dde’r sir er mwyn gwneud yn siŵr bod llais de’r sir yn cael ei glywed,” meddai un o drefnwyr y daith gerdded.
“Mae ail dai a thai haf yn effeithio ar gymunedau yn Ninbych y Pysgod a Solfach hefyd, mae’r cymunedau yma’n newid hefyd.
“Does dim cymaint o Gymraeg i’w glywed ar strydoedd Hwlffordd ag sydd ar strydoedd Crymych ar hyn o bryd, ond mae ysgol Gymraeg newydd i agor ym Mhenfro ac mae mwy o rieni eisiau addysg Gymraeg i’w plant ers agor Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd.
“Mae’r cyngor yn buddsoddi yn nyfodol y Gymraeg yn y sir, ond os na fydd y bobl ifanc yma’n gallu fforddio aros neu os na fydd tai ar gael iddyn nhw, beth fydd diben y buddsoddiad yna yng nghymunedau de’r sir?”