Cafodd plant a ddywedodd eu bod nhw wedi cael eu cam-drin yn rhywiol gan yr Arglwydd Greville Janner o Gaerdydd eu “gadael lawr gan fethiannau sefydliadol”, yn ôl ymchwiliad i ymatebion yr heddlu, y gwasanaethau erlyn a’r gwasanaethau cymdeithasol.
Wnaeth Heddlu Swydd Gaerlŷr, a oedd yn ymchwilio i werth degawdau o honiadau yn erbyn yr Arglwydd Janner, ddim “edrych tu hwnt i gefndiroedd cythryblus” y dioddefwyr a ddywedodd eu bod nhw wedi cael eu cam-drin mewn cartrefi plant yn y sir rhwng dechrau’r 60au a diwedd yr 80au.
Roedd yr Arglwydd Janner yn Aelod Seneddol Llafur rhwng 1970 a 1997 cyn iddo fynd i Dŷ’r Arglwyddi.
Cafodd ei gyhuddo o 22 trosedd yn ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol, yn gysylltiedig â naw bachgen gwahanol, yn 2015.
Roedd yn gwadu’r honiadau, a bu farw gyda dementia yn hwyrach yn 2015 wrth aros am yr achos llys.
‘Record druenus’
Fe wnaeth Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Rhywiol yn erbyn Plant (IICSA) gyhuddo’r Ditectif Uwch-arolygydd Christopher Thomas, a arweiniodd y trydydd ymchwiliad i’r mater, o beidio bod â diddordeb yn yr honiadau.
Dywedodd yr IICSA fod cydweithwyr Christopher Thomas ar Operation Dauntless yn “sydyn yn diystyru” rhai tystiolaethau, hefyd.
“Er gwaethaf honiadau difrifol niferus yn erbyn y diweddar Arglwydd Janner, roedd yr heddlu ac erlynwyr yn ymddangos yn amharod i ymchwilio’r honiadau yn ei erbyn yn llawn,” meddai’r Athro Alexis Jay, sy’n cadeirio’r ymchwiliad.
“Ar sawl achlysur, fe wnaeth yr heddlu roi rhy ychydig o bwyslais ar chwilio am dystiolaeth gefnogol, a chau ymchwiliadau heb fynd ar ôl pob ymchwiliad.”
Dywedodd hefyd fod gan Gyngor Sir Caerlŷr “record druenus o fethiannau” yn ymwneud â cham-drin mewn cartrefi plant yn mynd yn ôl i’r 60au.
“Mae’r ymchwiliad hwn wedi codi nifer o themâu rydyn ni’n andros o gyfarwydd â nhw nawr (dros yr holl ymchwiliad), fel ymostwng i unigolion pwerus, y rhwystrau mae plant yn eu hwynebu wrth adrodd [troseddau], a’r angen i sefydliadau gael polisïau a chamau clir yn dweud sut mae ymateb i honiadau o gam-drin plant yn rhywiol, er gwaethaf amlygrwydd yr ymosodwr honedig.”
Cwynion
Roedd dros 30 o gwynion ynghlwm â’r ymchwiliad, gyda chyfreithwyr yn disgrifio sut yr oedd plant tlawd mewn gofal ar “felt symudol tuag at gamdriniaeth”.
Roedd yr honiadau’n ymwneud â digwyddiadau mewn ysgolion, fflat yn Llundain, gwesty, car yr Arglwydd Janner, a San Steffan.
Doedd yr ymchwiliad ddim yn ystyried a yw’r honiadau yn erbyn yr Arglwydd Janner yn wir ai peidio.
Er hynny, daeth i’r canfyddiad bod “datganiadau hanfodol” o ymchwiliad Operation Magnolia yn 2000 wedi “cael eu sgubo dan y carped”.
Daeth honiadau yn erbyn yr Arglwydd Janner i’r amlwg am y tro cyntaf yn y 90au, er bod adroddiad o 2016 wedi dod i’r canlyniad bod yr heddlu ac erlynwyr wedi methu tri chyfle i’w gyhuddo yn y 90au ac yn ystod Ymgyrchoedd Magnolia a Dauntless yn 2000 a 2006.