Mae llywodraeth Catalwnia wedi cymryd camau i reoli eu rheilffyrdd eu hunain wrth gyhoeddi y bydd cwmni FGC, sydd wedi’i leoli yno, yn gyfrifol am wasanaeth cymudwyr Lleida o 2024.
Daeth y penderfyniad wrth i Gabinet Llywodraeth Catalwnia gyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Hydref 19).
Cwmni Renfe, sy’n cael ei redeg gan Lywodraeth Sbaen, sy’n gyfrifol am y gwasanaeth ar hyn o bryd.
Mae FGC eisoes yn gyfrifol am wasanaethau o Barcelona i siroedd Vallès Occidental a Baix Llobregat ger y brifddinas, ond Renfe sy’n gyfrifol am y prif reilffyrdd ar gyfer cymudwyr yn Barcelona a Lleida.
Daw’r cyhoeddiad am FGC wrth i Gabinet Llywodraeth Catalwnia geisio annog Llywodraeth Sbaen ym Madrid i ddatganoli pwerau tros y rhwydwaith yn llawn.
Yn ôl Jordi Puigneró, dirprwy arlywydd Catalwnia, mae’r cyhoeddiad yn golygu bod Catalwnia gam yn nes at y nod o sicrhau rhwydwaith i Gatalwnia “wedi’i weithredu a’i reoli gan Gatalwnia”.
Mwy o wasanaethau
Mae Llywodraeth Catalwnia wedi penderfynu y bydd y rheilffordd o L’Hospitalet de Llobregat i Lleida, yn cael ei hollti er mwyn dyblu nifer y trenau ar ôl i FGC gymryd rheolaeth o’r gwasanaeth ymhen tair blynedd.
Mae disgwyl wedyn i nifer y trenau dyddiol gynyddu o chwech i 12, gyda mwy o gerbydau rhwng Cervera a Manresa.
Mae disgwyl i’r trenau hynaf gael eu hadnewyddu ac i wasanaethau gynnig wi-fi i deithwyr.
Daw hyn wythnosau’n unig ar ôl i streic gan yrwyr Renfe achosi cryn oedi i filoedd o bobol oedd yn cymudo yn ardal Barcelona.
Roedd rhai yn aros dros bedair awr i ddal trên.
Mae’r streic, ynghyd â thrafodaethau agored rhwng llywodraethau Sbaen a Chatalwnia ac angen Llywodraeth Sbaen am gefnogaeth pleidiau o blaid annibyniaeth i Gyllideb 2022 wedi gweld cynnydd yn y galw am ddatganoli pwerau tros reilffyrdd i Gatalwnia yn ddiweddar.
Mae Llywodraeth Sbaen yn barod i drafod datganoli pwerau dros wasanaethau i gymudwyr, ond nid ar gyfer rheilffyrd ac is-adeiledd.