Mae gofyn i bobol a gafodd eu trin am ganser yng Nghymru yn 2020 rannu eu profiadau yn ystod blwyddyn y pandemig.

Y gobaith yw y bydd hyn yn llywio gofal canser yn y dyfodol.

O fory (dydd Mercher, Hydref 20), mae gofyn i oddeutu 11,000 o bobol a gafodd driniaeth am ganser yng Nghymru yn 2020 rannu eu barn yn Arolwg Profiad Cleifion Canser diweddaraf Cymru.

Wedi’i ariannu gan Gymorth Canser Macmillan a Rhwydwaith Canser Cymru, bydd yr arolwg yn gofyn i bobol am sawl agwedd ar eu gofal – o sut y cawson nhw ddiagnosis i’r gofal gawson nhw pan ddaeth eu triniaeth i ben.

Mae modd i’r rhai sy’n cyfrannu gwblhau’r arolwg yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac mae modd ei gwblhau ar bapur neu ar-lein gan ddefnyddio manylion ar eu llythyr gwahoddiad.

‘Cyfleu eich barn’

Mae Sarah Marshall o Langollen yn fam i ddau o blant.

Cafodd hi ddiagnosis o ganser eilaidd y fron yn hydref 2019.

“Os ydych chi wedi derbyn triniaeth canser ac eisiau cyfrannu at wella gwasanaethau yna mae cwblhau’r arolwg yn ffordd wych o gyfleu eich barn,” meddai.

“Fel cleifion mae gennym bersbectif unigryw a all helpu’r gweithwyr proffesiynol i ddeall beth sy’n gweithio i ni mewn gwirionedd, a beth nad yw’n gweithio, ac nid ydym bob amser yn cael yr amser i gael y sgwrs honno mewn amgylchedd meddygol.”

‘Deall profiadau cleifion’

“Mae deall profiadau cleifion bob amser yn ffactor hanfodol wrth gynllunio a gwella gwasanaethau canser, ac mae’r un mor bwysig â rheoli canlyniadau fel goroesiad ac ansawdd bywyd,” meddai Claire Birchall, Rheolwr Rhwydwaith Canser Cymru.

“Fodd bynnag, mae’r newidiadau cyflym yr oedd angen i ni eu gwneud mewn ymateb i’r pandemig yn golygu bod safbwyntiau cleifion a gafodd ddiagnosis a’u trin dros y flwyddyn ddiwethaf yn arbennig o bwysig wrth i ni werthuso effeithiolrwydd y mesurau a gymerwyd gennym, a hefyd yn deall effaith y pandemig ar brofiadau cleifion canser ar adeg mor heriol.

“Rwy’n annog pawb sy’n derbyn yr arolwg i’w gwblhau fel y gallwn gasglu’r wybodaeth hanfodol hon.”