Bydd Senedd Cymru yn talu teyrnged i Syr David Amess cyn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mawrth, 19 Hydref).
Roedd yr AS Torïaidd dros Orllewin Southend yn Essex yn cyfarfod etholwyr mewn capel yn ei etholaeth pan gafodd ei lofruddio.
Cafodd Ali Harbi Ali, dyn 25 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Syr David.
Mae o yn cael ei holi a’i gadw yn y ddalfa o dan y ddeddf terfysgaeth yn sgil y digwyddiad.
Yn ôl ffynonellau swyddogol, mae’r dyn yn ddinesydd Prydeinig o dras Somali, ac mae ymholiadau cychwynnol wedi awgrymu cyswllt posibl â therfysgaeth Islamaidd.
Dywed llygad-dystion ei fod ymysg grŵp o bobl a oedd yn aros i weld Syr David Amess yn yr eglwys, a chychwynnodd ymosod arno pan gyrhaeddodd yr AS.
Mae gwleidyddion o bob plaid wedi talu teyrngedau i’r gwleidydd a wasanaethodd fel AS Torïaidd ers 38 mlynedd.
Trefn y teyrngedau
Bydd y Llywydd, Elin Jones, yn dechrau’r sesiwn drwy dalu teyrnged i Syr David Amess, cyn gwahodd aelodau i gynnal munud o ddistawrwydd.
Yna bydd Arweinwyr y pleidiau yn talu teyrngedau iddo.
Ar ôl hynny, bydd Cwestiynau’r Prif Weinidog yn dechrau.