Mae gyrwyr bysiau Stagecoach De Cymru yn streicio i geisio perswadio’r cwmni i gynyddu eu cyflogau i £10.50 yr awr.

Mae’r gyrwyr o ganolfannau Cwmbrân, Coed-duon a Brynmawr sy’n aelodau o undeb Unite Cymru yn gwrthod dod i’r gwaith heddiw (dydd Mawrth, 19 Hydref), gan darfu ar wasanaethau bysiau ar draws y Cymoedd.

Yn ôl yr undeb, roedd trafodaethau am gynyddu cyflogau wedi eu gohirio yn 2020 oherwydd y pandemig, ond maen nhw bellach wedi ailddechrau.

Mae Stagecoach eisoes wedi cynnig codiad cyflog o 6% hyd yn hyn, ond mae Unite yn honni bod hynny’n amodol, ac y byddai tâl salwch a thâl gwyliau gyrwyr yn cael eu effeithio. Fydda yna ddim tâl gwyliau a byddai tâl salwch yn cael ei ostwng.

Mewn ymateb i brinder gyrwyr yn y sector trafnidiaeth gyhoeddus, sy’n cael ei achosi’n rhannol gan yrwyr yn symud i’r sector cludo nwyddau, mae gyrwyr yn galw ar Stagecoach i godi cyflogau i £10.50

Ymosod

Roedd Alan McCarthy, swyddog fhanbarthol Unite yng Nghymru, yn dweud bod Stagecoach wedi “gwthio ein aelodau i gornel.”

“Nid yn unig bod y cwmni wedi gwrthod ein cynnig cyflog, ond maen nhw hefyd yn ymosod ar dâl salwch a thâl gwyliau ein aelodau,” meddai.

“Mae Unite yn ymddiheuro am yr anghyfleustra y bydd y weithred hon yn ei achosi i deithwyr, ond mae ein haelodau ni wedi cael eu gadael gyda dim dewis ond streicio.

“Mae rheolwr gyfarwyddwr Stagecoach wedi disgrifio £10.50 yr awr fel ‘tâl ffantasi’.

“Fe wnaeth ein gyrwyr bysiau arwrol gadw ein cymunedau i symud trwy’r pandemig. Mae gyrwyr bysiau wedi profi eu gwerth ac mae disgrifio eu cais am dâl cymedrol yn y modd hwn yn amharchus a’n ddifater.

“Yr hyn sy’n ffantasi yw credu bod £10.50 yr awr yn ormod, yn enwedig pan rydyn ni’n ystyried yr amodau gwaith anhygoel o heriol y mae ein haelodau yn eu hwynebu o ddydd i ddydd.

“Mae ein haelodau’n cydnabod y gefnogaeth maen nhw wedi’i chael gan y cyhoedd drwy Covid, a gobeithio y bydd y cyhoedd yn eu cefnogi nawr, pan na fydd eu cyflogwr yn gwneud hynny.”

Ymateb Stagecoach De Cymru

“Er gwaethaf streic gan Unite the Union yng nghanolfannau bysiau Stagecoach yn y Coed Duon, Brynmawr a Chwmbrân, mae nifer o’n gwasanaethau yn parhau i redeg,” meddai llefarydd ar ran cwmni Stagecoach De Cymru.

“Mae’n hynod siomedig bod Unite wedi dewis parhau i streicio wrth i ni barhau i fod yn ymrwymedig i geisio datrys yr anghydfod cyflog hwn.

“Hyd yma, rydyn ni wedi cynnig codiad cyflog cyfartalog o 8.6% ar draws ein canolfannau, ynghyd ag ôl-daliad o 3%.

“Er ein bod yn ymrwymo i roi codiad cyflog da i’n staff, sy’n haeddiannol iawn, rhaid i hyn fod yn gynaliadwy i’n busnes er mwyn sicrhau hyfywedd tymor hir gwasanaethau, canolfannau bysiau a swyddi.

“Mae’r gofynion sy’n cael eu gwneud gan Unite yn parhau i fod yn achos aflonyddwch i’n cwsmeriaid, gweithwyr, a’r cymunedau lleol yr ydyn ni’n eu gwasanaethu.

“Rydyn ni’n ymddiheuro i’n cwsmeriaid am yr anghyfleustra sydd wedi ei achosi gan y weithred ddiangen hon gan Unite ac rydyn ni am sicrhau cwsmeriaid ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i geisio setlo’r anghydfod hwn.

“Rydyn ni’n annog Unite i roi’r gorau i newid y cyfyngiadau a dychwelyd i sgyrsiau gyda’r bwriad o drafod bargen a rhoi diwedd ar yr anghydfod hwn i’n staff a’n cwsmeriaid.”