Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw drachefn ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru.

Yn dilyn uwchgynhadledd rhwng Prif Weinidog Prydain ac arweinwyr y Llywodraethau datganoledig, fe wnaeth Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford drydar:

“Heddiw, pwysais ar y PM am warant y byddai ymchwiliad covid y DU yn archwilio’n briodol weithredoedd @WelshGovernment a phrofiadau pobl Cymru. Cadarnhaodd y PM y bydd dimensiwn Cymreig priodol i’r ymchwiliad a soniodd am ei bwysigrwydd i’r DU gyfan.”

Yn ddiweddarach, trydarodd Teuluoedd mewn Profedigaeth Covid-19 dros Gyfiawnder-Cymru:

Mae Plaid Cymru hefyd yn galw am ymchwiliad penodol i Gymru.

‘Beth mae Llafur yn cuddio?’

Wrth ymateb, dywedodd Russell George AoS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Iechyd: “Cymru sydd â’r gyfradd marwolaethau Covid uchaf yn y Deyrnas Unedig ac mae dros 8,000 o bobol wedi marw yn ystod y pandemig, gyda chwarter ohonynt wedi cael yr haint yn yr ysbyty.

“Mae eu teuluoedd yn haeddu atebion, a chraffu annibynnol, llawn ar y penderfyniadau a wneir gan weinidogion Llafur.

“Mae teuluoedd mewn profedigaeth, grwpiau meddygon ac elusennau’r ysgyfaint i gyd yn galw ar Mark Drakeford i dderbyn y craffu y mae pob democratiaeth yn ei haeddu.

“Fel arall, bydd y cwestiwn yn codi: beth mae gweinidogion Llafur yn cuddio?”