Mae Cyngor Sir Powys yn chwilio am chwech cartref ar gyfer teuluoedd sy’n ceisio lloches yn y sir.
Daw hyn ar ôl i bwyllgor craffu fynegi eu cefnogaeth i gynllun lloches y Swyddfa Gartref i Lywodraeth San Steffan.
Mae’r Cyngor yn ystyried gweithio gyda’r darparwr tai, Clearsprings Ready Homes, i ganfod llety preifat dros dro, tra bod ceisiadau lloches yn cael eu prosesu.
Bydd y Cabinet yn penderfynu mewn cyfarfod fis nesaf os ydyn nhw am roi eu sêl bendith i’r cynlluniau.
Mewn cyfarfod ddydd Llun, 18 Hydref, roedd cynghorwyr yn trafod y cynnig cyn ei gyflwyno i’r Cabinet.
Croesawu
Roedd y Cynghorydd Mathew Dorrance, cadeirydd y pwyllgor craffu Economi, Trigolion a Chymunedau, yn “croesawu’r cynnig,” gan ddweud mai dyma’n “sicr yw’r peth iawn i wneud.”
Fe wnaeth Steve Lakey o gwmni Clearsprings esbonio bod y cwmni eisoes yn chwilio am gartrefi addas.
“Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid awdurdodau lleol er mwyn cytuno ar yr ardaloedd gorau i chwilio am eiddo.”
“Rydyn ni’n hyderus y gallwn ni ddod o hyd iddyn nhw.
“Dydyn ni ddim yn siarad ar raddfa fawr, ond dydy o’n dal ddim am fod yn hawdd, na’n mynd i ddigwydd dros nos.”
Dywedodd y pwyllgor eu bod nhw’n cefnogi’r syniad y dylai Powys ddarparu lle i geiswyr lloches, ac y byddan nhw’n bwydo eu sylwadau i’r adroddiad sy’n cael ei drafod gan y Cabinet ddydd Mawrth, 2 Tachwedd.
Sefyllfa
Mae ffigyrau’n dangos bod 35,099 o geisiadau am loches wedi eu derbyn yn ystod 2020, sy’n gynnydd o 11% ar 2019.
Roedd hyn yn golygu bod 45,769 o geiswyr lloches yn y Deyrnas Unedig yn derbyn cefnogaeth erbyn diwedd Mehefin 2020.
Mae Cymru wedi darparu llety i geiswyr lloches mewn pedwar ‘Ardal Wasgaru,’ yng Nghasnewydd, Caerdydd, Abertawe a Wrecsam, ond mae’r cynnydd yn y galw bellach yn golygu bod holl awdurdodau lleol Cymru yn cael eu hannog i ddod o hyd i lety.