Mae’r cyn-Aelod o’r Senedd, Neil Hamilton, wedi cael ei ethol yn arweinydd UKIP.

Cafodd y newyddion mai cyn-Aelod y Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru fydd yr arweinydd nesaf ei gyhoeddi yn ystod cynhadledd y blaid yn Worthing, swydd Sussex.

Enillodd UKIP saith sedd yn etholiad y Senedd yn 2016, fis cyn y refferendwm ar le’r Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd, ac roedd Neil Hamilton yn eu plith.

Collodd y blaid eu holl seddi yn etholiad y Senedd eleni.

“Wrth ein boddau”

Ar gyfrif Twitter UKIP, dywedodd y blaid eu bod nhw “wrth ein boddau’n cyhoeddi bod Neil Hamilton wedi cael ei ethol fel arweinydd UKIP”.

Ers i Nigel Farage adael ei swydd fel arweinydd y blaid wedi’r refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016, mae o leiaf chwech o bobol eraill, heb gynnwys Neil Hamilton, wedi arwain UKIP.

Cyn ei gyfnod ag UKIP, bu Neil Hamilton, sydd yn lefarydd ac arweinydd y blaid yng Nghymru hefyd, yn Aelod Seneddol Torïaidd dros Tatton yn Sir Gaer rhwng 1983 a 1997.

Bu dryswch ynglŷn â phwy oedd arweinydd UKIP llynedd, wedi i’r cyn-arweinydd, Freddy Vachha, gwestiynu’r dewis i enwi Neil Hamilton yn bennaeth y blaid fis Medi llynedd.

Cafodd Freddy Vachha ei ethol yn arweinydd ym mis Mehefin 2020, ond roedd gwefan y blaid yn rhestru Neil Hamilton fel arweinydd dros dro.

Roedd Freddy Vachha yn dadlau nad oedd gan gadeirydd y blaid yr hawl i’w ddiswyddo, na phenodi Neil Hamilton yn ei le, ond yn ôl UKIP roedd cwyn yn ei erbyn yn atal ei aelodaeth o’r blaid, ac felly ei arweinyddiaeth.