Bydd grantiau o £5,000 ar gael o Ebrill 2022 i osod systemau gwresogi gwyrdd.

Mae’r grantiau hyn yn fodd i geisio perswadio perchnogion tai yng Nghymru a Lloegr i gyfnewid boeleri nwy am bympiau gwres carbon isel.

Daw hyn yn rhan o gynllun tair blynedd gwerth £450 miliwn gan Lywodraeth Prydain i geisio lleihau defnydd cartrefi o danwydd ffosil, sy’n cyfrannu’n helaeth at newid hinsawdd ac yn cynyddu’n sylweddol mewn pris.

Roedden nhw hefyd wedi cyhoeddi’r wythnos hon y byddan nhw’n sicrhau bod pob cartref yn defnyddio pŵer glân erbyn 2035.

Uwchraddio

Dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Undeig, Boris Johnson: “Wrth i ni lanhau’r ffordd rydyn ni’n cynhesu ein cartrefi dros y degawd nesaf, rydyn ni’n cefnogi ein harloeswyr sy’n gwneud technoleg lân fel pympiau gwres yn rhad i’w prynu – gan gefnogi miloedd o swyddi gwyrdd.

“Bydd ein grantiau newydd yn helpu perchnogion tai i newid yn gynt, heb gostio’n ychwanegol iddynt, fel mai mynd yn wyrdd yw’r dewis gorau pan fydd angen uwchraddio eu boeler.”

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad ar Twitter, doedd Lee Waters, y dirprwy weinidog dros newid ninsawdd, ddim mor gadarnhaol.

Dywedodd mai dim ond 0.3% o dai Cymru fyddai’n gallu gwneud cais am grant, ac y byddai’r systemau gwresogi newydd ddim yn effeithiol chwaith.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer lleihau allyriadau carbon mewn tai yng Nghymru, gan neilltuo £19.5 miliwn mewn cyllid.

Roedd Lee Waters hefyd yn honni bod Llywodraeth Prydain wedi mynd yn groes i Lywodraeth Cymru, ar ôl sicrhau y byddan nhw’n dilyn yr un trywydd ar dargedau lleihau carbon.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd eisoes wedi cyhoeddi y bydd Cymru Sero Net, sef ein cynllun ar gyfer lleihau allyriadau dros y pum mlynedd nesaf, yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 28 Hydref,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn siomedig ac yn rhwystredig ynghylch y ffaith nad ydym wedi gallu cyfrannu mwy at waith datblygu Strategaeth Sero Net Llywodraeth y DU, a fydd yn cael effaith ar Gymru gyfan.

“Ni fyddwn yn cyflwyno unrhyw sylwadau hyd nes y byddwn wedi cael cyfle i ddarllen a deall beth y bydd yn ei olygu i ni. Byddwn yn cyhoeddi datganiad maes o law.”