Fe wnaeth Bwrdd Iechyd achosi “anghyfiawnder sylweddol” i fam a’i mab 17 oed, sydd ag awtistiaeth ddifrifol, medd adroddiad.

Lansiodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ymchwiliad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar ôl derbyn cwyn gan y fam, Ms B.

Cwynodd bod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu gwasanaethau seicolegol priodol i’w mab, Mr C, ac wedi methu ag ateb ei anghenion clinigol.

Roedd y fam yn teimlo “bod ei theulu wedi’i ddinistrio”, a’i bod wedi cael ei gadael mewn sefyllfa “lle’r oedd ar fin rhoi Mr C mewn gofal oherwydd y diffyg cefnogaeth”, meddai’r Ombwdsmon.

Yr adroddiad

Daeth yr adroddiad i’r canlyniad fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chymryd camau prydlon a gwneud trefniadau i ddiwallu ei anghenion ar ôl cau gwasanaeth seicolegol.

Roedd y Bwrdd Iechyd yn ymwybodol o’r broblem, ond methodd â rhoi unrhyw gynllun ar waith i ateb yr anghenion.

Fel prif ofalwr Mr C, sydd ag awtistiaeth aneiriol ac sy’n arddangos ymddygiad heriol, cafodd Ms B ei gadael heb gefnogaeth ddigonol i reoli ei ymddygiad, meddai’r adroddiad.

Roedd gohebu’r Bwrdd Iechyd â Ms B yn annigonol, a chafodd ei gadael heb ddigon o wybodaeth pan wnaeth cyfyngiadau symud Covid-19 effeithio ar ei ymddygiad.

Ynghyd â hynny, roedd ymatebion Bwrdd Iechyd Hywel Dda i gwynion Ms B yn annigonol ac nid oedden nhw’n dilyn y rheoliadau perthnasol, meddai’r adroddiad.

Ni ddaeth yr Ombwdsmon o hyd i unrhyw dystiolaeth bod gan y Bwrdd Iechyd gynlluniau wrth gefn pe bai’r gwasanaeth seicolegol yn dod i ben.

Golygai hyn nad oedd Hywel Dda, na’r cleifion, yn barod ar gyfer diwedd sydyn i’r gwasanaeth.

“Testun pryder”

Wrth gyflwyno sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: “Dyma achos o destun pryder mawr lle’r oedd mam yn teimlo “bod ei theulu wedi’i ddinistrio” a’i bod wedi cael ei gadael mewn sefyllfa “lle’r oedd ar fin rhoi Mr C mewn gofal oherwydd y diffyg cefnogaeth” gan y Bwrdd Iechyd.

“Roedd rhoi diwedd ar y Gwasanaeth Arbenigol wedi gadael bwlch enfawr ym mywyd Ms B ac ym mywydau’r holl deuluoedd â phlant ag anableddau dysgu yn ardal y Bwrdd Iechyd.

“Nid yw Ms B am i deuluoedd eraill brofi’r hyn yr oedd hi a’i theulu wedi’i brofi, ac rwy’n rhannu’r pryder hwn”.

Mae’r Ombwdsmon wedi gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys bod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Ms B, a’u bod nhw’n atgoffa staff perthnasol o bwysigrwydd ymchwilio i gwynion a chreu ymatebion yn unol â rheoliadau a chanllawiau.

Fel rhan o’r argymhellion, mae’r Ombwdsmon am i’r Bwrdd Iechyd ymgymryd ag adolygiad i nodi unrhyw gleifion eraill sydd ag anghenion heb eu diwallu yn sgil cau’r Gwasanaeth Arbenigol, a chymryd camau i ddiwallu’r anghenion hynny.

Maen nhw hefyd yn argymell bod y Bwrdd Iechyd yn comisiynu a chwblhau ei adolygiad arfaethedig o wasanaethau seicolegol plant, ac adrodd y canfyddiadau’n ôl i’r Ombwdsmon.

Ymateb Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Steve Moore: “Mae’n ddrwg iawn gennym am y methiannau a nodwyd ac rydym wedi ysgrifennu at y teulu i ymddiheuro. Rydym yn derbyn yr argymhellion y mae’r Ombwdsmon wedi’u cynnig.

“Nid oes amheuaeth gan y Bwrdd Iechyd fod angen parhau i ddarparu gwasanaeth seicolegol pwrpasol i’n plant a’n pobol ifanc. Mae ffocws mawr gan y Bwrdd ar ddarparu gwasanaeth effeithiol i blant a phobol ifanc sy’n cwrdd â gofyniad yr adroddiad ‘dim drws anghywir’ a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd Plant.

“Mae Gweithgor Plant a Phobol Ifanc wedi’i sefydlu i sicrhau bod llais plant a phobol ifanc yn rhan annatod o’r hyn a wnawn ac un o flaenoriaethau gwaith yw cynnal adolygiad dan arweiniad clinigol o wasanaethau seicoleg plant i sicrhau bod yr angen a nodwyd yn cael ei ddelio ag ef.

“Roedd hwn yn gyfnod heriol iawn i Dîm Anableddau Dysgu’r Bwrdd Iechyd a’r Gwasanaeth Seicolegol yn benodol, oherwydd lefelau uchel o absenoldeb staff, swyddi gwag a mentrau recriwtio aflwyddiannus; ac mae’n ddrwg gennym fod hyn wedi achosi gorfodaeth i’r teulu yn ystod cyfnod a oedd eisoes yn anodd iddynt. Mae mesurau wedi’u cyflwyno i sicrhau bod cyfathrebu priodol ar waith i ymateb i bryderon a chwynion.”