Mae Gogledd Corea wedi tanio “o leiaf un” taflegryn i’r môr oddi ar eu harfordir dwyreiniol, yn ôl De Corea a Siapan.

Fe gafodd y taflegryn ei lansio o long danfor am tua 10:17 amser lleol, (01:17 amser Prydain) ddydd Mawrth, yn ôl y ddwy wlad.

Mae’r taflegryn yn fath “newydd” o arf, a gafodd ei ddadorchuddio gan Pyongyang fis Ionawr.

Mae Gogledd Corea wedi ei ddisgrifio fel “arf mwyaf pwerus y byd”.

Yn y cyfamser, mae adroddiadau bod De Korea, Japan a phenaethiaid cudd-wybodaeth yr UDA yn cwrdd yn Seoul i drafod Gogledd Korea.

Trafodaethau

Mae llysgennad arbennig yr Arlywydd Joe Biden ar gyfer Gogledd Corea, Sung Kim, yn anelu at gynnal trafodaethau gyda chynghreiriaid yr Unol Daleithiau yn Seoul o fewn dyddiau gyda’r gobaith o adfywio trafodaethau gyda Gogledd Corea.

Mae trafodaethau niwclear rhwng Washington a Pyongyang wedi arafu am ragor na dwy flynedd ynghylch anghytundebau am sancsiynau yr Unol Daleithiau yn erbyn Gogledd Core.

Mae arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un, wedi addo cryfhau ei arfau niwclear ers ei anghytuno diplomataidd gyda’r Arlywydd Donald Trump ar y pryd.

Hyd yma, mae ei lywodraeth wedi gwrthod cynigion gweinyddiaeth Biden i ailgychwyn deialog heb amodau, gan ddweud bod yn rhaid i Washington roi’r gorau i’w “bolisi gelyniaethus”, term y mae’r Gogledd yn ei ddefnyddio’n bennaf i gyfeirio at sancsiynau ac ymarferion milwrol yr UD yn Ne Korea.