Mae cyn-Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi gadael Plaid Cymru oherwydd “diffyg strategaeth” yn ystod etholiad y Senedd.

Wrth siarad â Nation.Cymru, fe wnaeth Arfon Jones gadarnhau ei fod wedi gadael y blaid yn sgil yr etholiad ym mis Mai.

Cafodd Arfon Jones ei ethol yn Gomisiynydd Heddlu yn 2016, gyda mwyafrif o 25,000 o’r bleidlais, ac ni wnaeth sefyll eleni.

Roedd y cyn-Gomisiynydd eisoes wedi sôn wrth golwg360 bod gan Blaid Cymru ddiffyg strategaeth wrth ymgyrchu yn etholiad Senedd Cymru fis Mai, a bod yr ymgeiswyr yn dibynnu ar eu gweithgarwch eu hunain.

Collodd Plaid Cymru sedd Leanne Wood yn y Rhondda yn ystod yr etholiad, gan fethu â chipio rhai o’i seddi targed megis Llanelli ac Aberconwy, a gorffen gyda 13 sedd allan o 60.

Er i’r blaid ennill un sedd ychwanegol yn y Senedd, fe ddisgynnon nhw y tu ôl i’r Ceidwadwyr Cymreig a enillodd bum sedd a chodi eu cyfanswm i 16 o aelodau.

Dim ond yn Nyfed-Powys y llwyddodd Plaid Cymru i ennill etholiadau Comisiynydd yr Heddlu’r tro hwn, wedi i gomisiynydd dros y Blaid Lafur ddod i’r brig yn yr etholiad i fod yn Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru.

Dywedodd Arfon Jones wrth Nation.Cymru: “Cefais drafodaeth gyda’r blaid, a chyda’r Prif Weithredwr newydd a gyrrais e-bost at y cadeirydd.

“Roedden ni’n gwneud adolygiad o’r strategaeth ar gyfer etholiad 2021 a doeddwn i ddim yn credu mai’r strategaeth honno oedd yr un gywir.

“Penderfynais wel, dw i’n ymddeol beth bynnag.”

Person iawn

Wrth siarad â golwg360 wedi’r etholiad, dywedodd Arfon Jones nad Adam Price yw’r “person iawn” i arwain Plaid Cymru.

Dywedodd bryd hynny bod ymgeiswyr wedi llwyddo oherwydd “eu gweithgarwch eu hunain” yn hytrach na chefnogaeth y blaid.

“Dw i ddim yn meddwl fod yno strategaeth wedi bod, a dweud y gwir,” meddai.

“Mae hi’n ddigon hawdd gofyn i rywun sefyll dros y blaid ac wedyn rhoi dim cefnogaeth iddyn nhw,” meddai wedyn, wrth droi’n ôl at strategaeth y blaid.

“Ond dim fel yna rydan ni’n mynd i gael pobol i sefyll drosom ni.

“Os ydan ni am gael pobol i sefyll dros y blaid, maen nhw angen cefnogaeth.”

Arfon Jones yn dweud nad Adam Price yw’r person iawn i arwain Plaid Cymru

Huw Bebb

“Dydyn ni heb gael dim cefnogaeth o’r canol yng Nghaerdydd, a’r rheswm wnaeth rhai ymgeiswyr mor dda oedd oherwydd eu gweithgarwch eu hunain”