Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi uno â Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chasineb ar-lein tuag at ferched a menywod.

Fel rhan o’r ymgyrch, mae’r ddau sefydliad yn lansio adnoddau addysgol, gan gynnwys ffilm sy’n cynnwys nifer o chwaraewyr rhyngwladol Cymru yn tynnu sylw at enghreifftiau go iawn o gasineb at fenywod ac iaith casineb ar-lein.

Mae’n nhw o’r farn ei bod hi’n bwysig cydweithio yn dilyn y casineb tuag at bêl-droedwyr benywaidd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod tymor 2020/21.

Roedd y casineb, a’r iaith casineb a gafodd ei defnyddio tuag at chwaraewr Dinas Caerdydd yn dilyn darlledu gêm gyntaf prif gynghrair menywod Cymru ar y teledu, yn pwysleisio’r angen am addysg ar y mater, meddai’r ddau gorff.

 

Yn ogystal, dangosodd yr effaith negyddol y gall iaith casineb a chasineb ar-lein at fenywod ei chael ar ferched a menywod, nid yn unig mewn pêl-droed, ond ar draws cymdeithas, ychwanegant.

Mae’r adnoddau wedi cael eu datblygu ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd gan arbenigwyr diogelwch ar-lein.

Bydd yr adnoddau’n helpu dysgwyr i ddeall pwysigrwydd cydbarch rhwng bechgyn a merched, sut beth yw iaith casineb ar-lein, y term ‘gwrywdod tocsig’ (toxic masculinity), a’r rôl y mae’n chwarae wrth sbarduno casineb at fenywod ar-lein.

“Codi ymwybyddiaeth”

Dywedodd y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles AoS, “na ddylid dioddef camdriniaeth, casineb nac aflonyddu ar fenywod, p’un a yw hynny’n digwydd ar-lein neu fel arall”.

Bydd Llywodraeth Cymru yn “gwneud popeth o fewn ein gallu” i fynd i’r afael â hynny, meddai.

“Rhan allweddol o ddelio â chasineb at fenywod ar-lein yw sicrhau bod adnoddau i gefnogi’r sgyrsiau pwysig hyn,” meddai Jeremy Miles.

“Mae’n hanfodol darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu am eu hawliau a hawliau eraill, yn ogystal ag effaith camdriniaeth o’r fath a’r niwed y mae’n ei achosi.

“Ac yn bwysicach fyth, mae’r adnodd yn codi ymwybyddiaeth o sut i herio camdriniaeth ar-lein yn ddiogel, fel y gallwn oll chwarae rhan a gwneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel.”

“Rydw i’n hynod falch ein bod yn gallu gweithio ochr yn ochr â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, nid yn unig i dynnu sylw at gasineb ar-lein tuag at fenywod, ond i fynd i’r afael â’r broblem hefyd.”

“Torcalonnus”

Mae’r fideo yn cynnwys y chwaraewr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau erioed i Gymru, Jess Fishlock, a dywedodd: “Roedd hi’n dorcalonnus y llynedd gweld y casineb ar-lein tuag bêl-droedwyr o’r gynghrair sy’n chwarae am eu bod yn caru’r gêm.

“Dydy ceisio gwneud i rywun deimlo’n wael am wneud rhywbeth maen nhw’n ei garu ddim yn glyfar nad yn ddoniol.

“Dwi wastad yn dweud y dylai pobl feddwl sut y gall camdriniaeth effeithio ar y person sy’n cael eu cam-drin cyn rhannu, ac rydw i’n falch o gael gweithio gyda fy nghyd-chwaraewyr a Chymdeithas Bêl-droed Cymru i addysgu eraill ymhellach ar beth sy’n dderbyniol ar-lein, a beth sydd ddim.”

“Adnodd mor bwerus”

Ychwanegodd Sian Jones, Rheolwr Diogelu a Lles Chwaraewyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, bod y gymdeithas wedi “ymrwymo i ddiogelu ar bob lefel o’r gêm yng Nghymru”, a’u bod nhw’n falch o uno â Llywodraeth Cymru i rannu’r adnoddau hyn.

“Yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru, rydym ni eisiau i bawb fwynhau pêl-droed a chael profiad cadarnhaol, boed hynny ar-lein neu fel arall.

“Gall pêl-droed fod yn adnodd mor bwerus at gyflawni pethau cadarnhaol, ac mae’n fraint defnyddio llwyfan Cymdeithas Bêl-droed Cymru gyda phartneriaid ar draws Cymru i barhau i sefyll yn erbyn casineb ar- lein.”