Mae mam bachgen pump oed a gafodd ei ganfod yn farw mewn afon wedi cael ei chadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddio’i mab.

Cafodd Logan Mwangi ei ganfod yn afon Ogwr yn sir Pen-y-bont ar Ogwr ar Orffennaf 31.

Aeth ei fam Angharad Williamson, 30 oed o Sarn, gerbron Llys y Goron Casnewydd drwy gyswllt fideo, lle siaradodd er mwyn cadarnhau ei henw cyn i’r achos gael ei ohirio.

Mae dau berson arall hefyd wedi cael eu cyhuddo o lofruddio Logan.

Mae ei lystad John Cole, 39, hefyd o Sarn, eisoes wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Logan, yn ogystal â bachgen 14 oed, nad oes modd ei enwi oherwydd ei oedran.

Mae’r tri diffynnydd hefyd wedi cael eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mam Logan Mwangi yn ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o’i lofruddio

Angharad Williamson, 30, yw’r trydydd person i gael ei chyhuddo o lofruddiaeth wedi i gorff y bachgen pump oed gael ei ddarganfod fis Gorffennaf

Cyhuddo llanc 14 oed o lofruddio Logan Mwangi, pump oed o Ben-y-bont ar Ogwr

Cafwyd hyd i gorff y bachgen bach mewn afon ger ei gartref