Mae llanc 14 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Logan Mwangi, bachgen pump oed o Ben-y-bont ar Ogwr.

Cafwyd hyd i gorff y bachgen bach mewn afon ger ei gartref ym Mharc Pandy ar ôl i’r heddlu ymateb i adroddiadau ei fod e ar goll am 5.45yb ar Orffennaf 31.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty lleol, lle bu farw.

Bydd y llanc yn mynd gerbron ynadon yng Nghaerdydd heddiw (dydd Iau, Hydref 21).