Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi enw’r dyn fu farw yn dilyn ymosodiad yn Aberdâr.

Bu farw Keyron Curtis, oedd yn 21 oed ac yn dod o Gwmdâr, yn dilyn y digwyddiad y tu allan i dafarn y Colliers Arms ym Mhenywaun am oddeutu 1.10yb fore Sul (Hydref 17).

Mae dyn lleol 24 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o’i lofruddio, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â deunydd ffotograffig neu dashcam o’r digwyddiad neu o’r ardal ar y pryd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.

Teyrnged y teulu

“Roedd Keyron yn fachgen teuluol cyfeillgar a hawddgar a chanddo galon aur,” meddai ei deulu wrth dalu teyrnged iddo.

“Roedd yn cael ei garu gennym i gyd, ac roedd e bob amser yn rhoi pobol eraill o’i flaen ei hun.

“Byddai wedi dod yn dad o fewn ychydig wythnosau, ac fe fyddai wedi bod yn dad gwych.

“Bydd colled fawr ar ei ôl ymhlith ei deulu a’i ffrindiau.”