Mae angen i ffermio ffeindio datrysiadau naturiol i fynd i’r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth neu wynebu dyfodol ansicr, yn ôl y Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur.

Mae adroddiad newydd Ailfeddwl am Ffermio yn cyflwyno tystiolaeth y gall ffermio â natur adfer asedau naturiol a gwella gwytnwch i gynhesu byd eang.

Cyn COP26, mae adroddiad Ailfeddwl am Ffermio yn cyflwyno ymchwil gyda thystiolaeth o 18 astudiaeth achos sy’n datgelu sut y gall arloesedd gan ffermwyr ac atebion sy’n seiliedig ar natur gael effaith gadarnhaol ar fusnesau fferm.

Mae’r adroddiad yn dod i gasgliadau ynghylch sut y gall ffermio â natur wneud mwy o elw, cynnig hyfywedd mewn marchnadoedd sy’n newid a sicrhau tirwedd fwy hyblyg.

Mae’r Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur yn galw am fwy o uchelgais gan ffermwyr a llunwyr polisïau i ddefnyddio rôl allweddol y sector yn llawn o ran helpu i gyrraedd targed sero-net Cymru erbyn 2050 ac mae’n galw am fwy o weithredu os bydd newid yn yr hinsawdd yn parhau yn ôl y disgwyl.

‘Newid trawsnewidiol’

“Wrth i Gymru osod polisïau ffermio yn y dyfodol ac amlinellu cyllid ar gyfer adfer yr amgylchedd, rydym yn sefyll ar y newid trawsnewidiol,” meddai Hilary Kehoe, cadeirydd Cymru y Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur.

“Ond mae er lles ffermwyr i ddechrau gweithredu ar newid yn yr hinsawdd ac adfer natur nawr, lle gall gweithredu ar y fferm wneud busnesau’n fwy gwydn.

“Gwyddom fod ffermio’n cyfrannu at darfu ecolegol.

“Ac mae’r wyddoniaeth yn glir – mae gennym ddeng mlynedd i osgoi effeithiau gwaethaf yr argyfwng hinsawdd.

“Gall atebion syml gael yr effeithiau mwyaf wrth baratoi ffermio ar gyfer yr hyn sydd i ddod.

“Mae bod yn berchen ar dir neu ei reoli yn fraint, ac felly mae gennym rwymedigaeth foesol i helpu i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu.

“Nid dim ond ffermwyr, mae’n bawb.”

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys ymchwil i 726 o aelodau cyhoeddus a ffermwyr y Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur sy’n datgelu pryder mawr ynghylch sut y bydd newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yn effeithio ar ffermwyr y Deyrnas Unedig.

Mae galw ar y sector i wneud mwy i fynd i’r afael â’r heriau hyn.

  • Mae dros naw o bob deg ffermwr (92%) yn pryderu am effeithiau newid yn yr hinsawdd ar eu busnes, gydag wyth o bob deg yn pryderu am golli bioamrywiaeth.
  • Mae bron pob un (97%) o ffermwyr yn credu bod angen addysgu defnyddwyr yn well am werth asedau naturiol ar ffermydd, gan gynnwys sut mae rheoli cyfalaf naturiol yn llwyddiannus o fudd i’r cyhoedd.
  • Mae dros naw o bob deg yn credu y dylai labeli bwyd nodi mesurau cynhyrchu yn glir.
  • Nid yw bron i dri chwarter (71%) yn credu bod gan y diwydiant y cyfarpar ar hyn o bryd i ddelio â heriau colli hinsawdd a natur, ar yr un pryd â chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy
  • Mae dros naw o bob deg o bobol (98%) am i ffermio wneud mwy i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth
  • Mae 75% o ffermwyr yn pryderu y gallai targedau sero-net yrru creu coetiroedd sy’n bygwth cynefinoedd naturiol ac sy’n cyfrannu at golli bioamrywiaeth os na chânt eu gweithredu gan ddull “lle cywir ar gyfer coeden”.