Mae Mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg wedi cyhuddo Cyngor Castell-nedd Port Talbot o anwybyddu eu pryderon ynghylch effaith cynllun ysgol Saesneg newydd ym Mhontardawe ar y Gymraeg.
Bydd ysgol cyfrwng Saesneg ar gyfer plant rhwng 3 ac 11 oed yn cael ei sefydlu yn lle’r tair ysgol yno.
Allan o’r 234 o ymatebion a gafodd y Cabinet drwy ymgynghoriad, dim ond 21 ohonyn nhw oedd o blaid y cynlluniau.
Ar ben hynny, roedd 413 o bobol wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu cau’r tair ysgol, ac adeiladu un fawr.
Ddoe (dydd Mercher, Hydref 20), fe wnaeth Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, lambastio penderfyniad “annemocrataidd” Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gau’r tair ysgol gynradd.
Mae Mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg yn mynnu gweld yr adroddiad llawn a gafodd ei baratoi gan Lywodraeth Cymru fel rhan o asesiad effaith iaith ddilynol i Gyngor Castell-nedd Port Talbot.
Dim ond un paragraff ddewisodd y swyddogion ei gynnwys yn yr adroddiad terfynol i agor ysgol newydd cyfrwng Saesneg 3-11 oed ym Mhontardawe.
Noda’r tamaid o’r adroddiad newydd: “Dylid pwysleisio’n glir, o ran yr egwyddorion a’r prosesau cynllunio ieithyddol a nodir uchod, na fydd unrhyw gamau lliniaru yng nghyd-destun dyfodol y Gymraeg yng Nghwm Tawe yn gwneud iawn am barhau â’r cynnig hwn fel y mae.”
Mae hefyd yn nodi, “Mewn cymunedau dwyieithog, mae ieithoedd fwyfwy yn dod yn fater o ddewis.”
‘Camgymeriad difrifol’
Dywed Mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg fod y penderfyniad yn “gamgymeriad difrifol gan y sir”.
“Mae’r adroddiad yn cynnwys un paragraff o’r adroddiad mesur effaith newydd – paragraff sydd yn ein gorfodi i holi mwy o gwestiynau,” meddai Elin Maher, Swyddog Hyrwyddo ac Ymgysylltu Mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg.
“Nid yw’r Sir wedi bod yn dryloyw gyda ni.
“Mae’n amlwg bod barn arbenigol wedi ei geisio ar yr effaith ar yr Iaith Gymraeg a statws ieithyddol arbennig yr ardal, ac y mae hyn i’w gymeradwyo, wrth gwrs.
“Ond y mae’r sir ond wedi cynnig tamaid i ni o’r adroddiad ac y mae’r tamaid hwn wedi gwneud i ni bryderu hyd yn oed yn fwy, ac yn gwneud inni feddwl tybed pa rannau arwyddocaol eraill o’r adroddiad na chawsant eu datgelu.
“Dylid atal y broses fel bod modd i bawb weld cynnwys yr adroddiad hwn.
“Mae’r sir wedi gwneud cam â’r gymuned ac wedi difrïo statws arwyddocaol y Gymraeg yn yr ardal.”
Mae golwg360 wedi gofyn i’r Cyngor am ymateb.