Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu’r rhaglen frechu ymhlith plant dros hanner tymor, ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod 58,000 o sesiynau wedi’u colli mewn ysgolion rhwng Hydref 11 a 15.
Dydy’r ffigurau hyn ddim yn dangos cyfraddau Covid-19 mewn ysgolion gan nad yw data’r Llywodraeth yn gwahaniaethu rhwng Covid-19 a salwch eraill.
Mae adroddiad y Llywodraeth yn dod i’r casgliad fod yr amcangyfrifon ar gyfer salwch yn ymwneud â Covid-19 yn is nag ydyn nhw mewn gwirionedd.
‘Gweithredu annigonol’
“Allwn ni ddim gadael i ddyfodol ein plant barhau i gael ei effeithio oherwydd gweithredu annigonol,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
“Rhaid i’r Llywodraeth gyflymu brechiadau i bobol 12 i 16 oed ar frys dros wyliau’r hanner tymor, i atal yr ymlediad mewn ysgolion ac i atal rhagor o amharu yn yr ystafell ddosbarth.
“Mae ysgolion wedi cael y dasg amhosib o gadw plant yn yr ystafell ddosbarth tra eu bod nhw hefyd yn ymdrin â chyfraddau Covid cynyddol.
“O ganlyniad, mae miloedd o blant bellach yn colli allan ar addysg hanfodol unwaith eto o ganlyniad i heintiadau ac mae rhieni mewn perygl o deimlo fel pe baen nhw wedi cael eu hamddifadu.
“Rydym hefyd wedi gweld nifer o athrawon yn rhybuddio am yr effaith mae achosion cynyddol yn ei chael ar eu hiechyd meddwl a’u galluoedd i weithredu.
“Rhaid i ni lansio ymgyrch frechu Covid dros hanner tymor er mwyn mynd i’r afael â’r anhrefn hyn ac i helpu ein plant i ddal i fyny ar addysg a gollwyd cyn ei bod hi’n rhy hwyr.
“Rhaid hefyd i’r Llywodraeth roi’r gorau i osod Covid-19 ynghyd â salwch eraill yn eu setiau data fel ein bod ni’n cael darlun go iawn o’r hyn sy’n digwydd yn ein hysgolion a sut y gallwn ymateb yn well wrth i ni symud ymhellach i fisoedd y gaeaf.”