Mae Llywodraeth yr Alban yn rhybuddio y bydd cytundeb masnach newydd y Deyrnas Unedig gyda Seland Newydd yn “cynyddu’r niwed i’n heconomi sy’n cael ei achosi gan Brexit”.

Daw hyn wedi i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, gytuno ar gytundeb masnach newydd gyda Jacinda Ardern, prif weinidog Seland Newydd.

Dywed Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai’r cytundeb yn torri biwrocratiaeth i fusnesau ac yn rhoi terfyn ar dariffau ar allforion.

Ond mae ffermwyr yn rhybuddio am “anfanteision enfawr” i’r cytundeb, gan ddweud y gallai “niweidio hyfywedd llawer o ffermydd Prydain yn y blynyddoedd i ddod”.

Daw’r cytundeb ar ôl 16 mis o drafodaethau.

“Mae hyn yn fargen fasnach fawr i’r Deyrnas Unedig, gan gadarnhau ein cyfeillgarwch hir â Seland Newydd a hyrwyddo ein cysylltiadau â’r Indo-Pacific,” meddai Boris Johnson.

“Bydd o fudd i fusnesau a chwsmeriaid ledled y wlad, gan dorri costau i allforwyr ac agor mynediad i’n gweithwyr.

“Mae hon yn wythnos wych i Brydain Fyd-eang.”

Pryderon ffermwyr

Ond dywed Minette Batters, llywydd yr NFU, y bydd y cytundeb, ynghyd â’r cytundeb cynharach a gafodd ei lofnodi gydag Awstralia, yn agor y Deyrnas Unedig i “nifer sylweddol ychwanegol o fwyd wedi’i fewnforio” tra’n “sicrhau bron dim i ffermwyr y Deyrnas Unedig”.

“Dylem i gyd boeni y gallai fod anfanteision enfawr i’r cytundebau hyn, yn enwedig ar gyfer sectorau fel llaeth, cig coch a garddwriaeth,” meddai.

“Dyna pam ei bod hi’n anodd iawn i’r NFU ddangos unrhyw gefnogaeth i’r cytundebau hyn.

“Gallai hyn niweidio hyfywedd llawer o ffermydd Prydain yn y blynyddoedd i ddod, er anfantais i’r cyhoedd, sydd am gael mwy o fwyd Prydeinig ar eu silffoedd, ac er anfantais i’n cymunedau gwledig a’n tirweddau fferm.”

Manylion y cytundeb

O dan y cytundeb, bydd Seland Newydd yn cael mwy o fynediad i farchnad y Deyrnas Unedig ar gyfer allforion cig oen.

Bydd y cytundeb yn gweld yr holl gwotâu ar gig oen yn cael eu codi ar ôl 15 mlynedd, ond cyn hynny bydd cwota o 35,000 tunnell am y pedair blynedd gyntaf, yna 50,000 tunnell ychwanegol wedi hynny.

Bydd tariffau mor uchel â 10% yn cael eu tynnu ar nifer o nwyddau yn y Deyrnas Unedig, o ddillad ac esgidiau i fysiau, llongau, teirw a chloddwyr.

Bydd cynhyrchion o ansawdd uchel o Seland Newydd fel gwin sauvignon blanc i fêl manuka a ffrwythau kiwi, yn rhatach i’w prynu.

‘Cysylltiad cryfach’

“Mae’r Deyrnas Unedig a Seland Newydd yn ffrindiau gwych ac yn bartneriaid agos,” meddai Jacinda Ardern.

“Mae’r cysylltiadau hanesyddol sy’n ein rhwymo yn rhedeg yn ddwfn.

“Mae’r cytundeb masnach rydd hwn yn gosod y sylfeini ar gyfer cysylltiadau cryfach fyth wrth i’r ddwy wlad ddechrau ar gyfnod newydd yn ein perthynas.

“Mae’n dda i’n heconomïau, ein busnesau a’n pobol.”