Mae hi’n 55 mlynedd ers trychineb Aberfan, lle bu farw 144 o bobol, gan gynnwys plant, ar ôl i domen lo gwympo a chladdu ysgol gynradd.

Roedd yn un o’r trychinebau mwyaf dinistriol yng Nghymru ers yr Ail Ryfel Byd, ac fe ddaeth yr ymchwiliad dilynol i’r casgliad mai ar y Bwrdd Glo Cenedlaethol yr oedd y bai.

Er hynny, doedd dim un aelod o’r bwrdd wedi eu herlyn na cholli eu swydd, ac fe arweiniodd hynny at ymdeimlad o frad a siom ymysg cymunedau’r ardaloedd glo.

Mae nifer wedi talu teyrnged i’r dioddefwyr a’u teuluoedd ar gyfryngau cymdeithasol

Teyrngedau

Dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford na fyddwn ni “byth yn anghofio colli cynifer” o fywydau.

Fe ychwanegodd hefyd fod “gwytnwch” y gymuned yn ysbrydoliaeth i bawb.

Dywed Leanne Wood, cyn-arweinydd Plaid Cymru, yn ei theyrnged hi ar Twitter y byddai hi’n cofio pawb sydd wedi marw o achos glo dros y blynyddoedd.

Nododd hi y dylai “pobol olygu mwy nag elw, ond dydyn nhw ddim.”

‘Anghofith neb byth’

Mae’r newyddiadurwr Jeremy Paxman wedi ysgrifennu llyfr am hanes glo yng ngwledydd Prydain.

Fe rybuddia yn y llyfr hwnnw fod perygl y bydd pobol yn anghofio trychineb Aberfan ymhen amser.

“Bydd pobol yn anghofio Aberfan mae arna’ i ofn,” meddai ar raglen Heno ar S4C.

“Yn yr un ffordd ag y gwnaethon nhw anghofio trychinebau glofaol blaenorol.”

Wrth ystyried hynny, dywedodd y cyn-löwr, Mike Reynolds, wrth y rhaglen na fydd neb “byth” yn anghofio’r digwyddiad.

“Dw i’n credu bod hwn yn waeth trychineb nag unrhyw un achos taw plant oedd e,” meddai.

“Doedd y plant hynny ddim byd i wneud â’r glo,

“Doedden nhw ddim yn gweithio, roedden nhw yn yr ysgol.

“Na, dw i’n credu anghofith neb byth am Aberfan.”

Y cymunedau glo

Roedd Jeremy Paxman hefyd yn siarad ar raglen Heno am sut y daeth y cymunedau glo i fodoli yng Nghymru, yn aml er elw mawr i bobol allanol.

Fe roddodd glod hefyd i’r cymunedau glofaol yn ne Cymru a’r elfen o undod.

“Dydw i erioed wedi cyfarfod glöwr oedd eisiau i’w fab weithio yn y pwll,” meddai.

“Roedd yn swydd ofnadwy, ac roedden nhw’n gwybod hynny.

“Ond yng Nghymru, roedd rhywbeth am agosatrwydd y gymuned, y ffordd roedd pobol yn edrych ar ôl ei gilydd, a’r ffordd roedd pobol yn poeni.

“Roedd ganddyn nhw eu balchder.”