Mae landlord tafarn yn Wrecsam wedi galw am graffu manylach ar effaith gwerthu alcohol mewn archfarchnadoedd a siopau.
Daw hyn yn dilyn honiadau bod alcohol sy’n cael ei werthu mewn siopau wedi arwain at gynnydd mewn yfed dan oed, yfed a gyrru a llygredd yn yr ardal.
Fe wnaeth David Metcalfe, sy’n rhedeg Tafarn Holly Bush yng Nghefn Mawr, ei sylwadau mewn ymateb i adolygiad o bolisi trwyddedu Cyngor Wrecsam.
Mae wedi gofyn am fwy o ffocws i’r effaith ar yr amgylchedd ar ôl tynnu sylw at faint o ganiau a photeli cwrw sy’n cael eu gollwng ar Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr Pontcysyllte.
Cyfeiriodd hefyd at yr adran “gyfyngedig iawn” ar werthiannau alcohol mewn siopau ym mholisi’r awdurdod lleol a’i hannog i ystyried yr effaith ar ddiogelwch y cyhoedd ac iechyd plant.
Yn ei ymateb i’r ymgynghoriad, dywedodd David Metcalfe fod “gwerthiant siopau bellach yn gyfrifol am y rhan fwyaf o werthiannau alcohol yn y Deyrnas Unedig, ac mae’r arfer hwn yn cyfrannu’n sylweddol at ddinistrio ein hamgylchedd, naill ai drwy sbwriel neu ailgylchu cannoedd o filoedd o dunelli o wydr ac alwminiwm bob blwyddyn”.
“Mae angen mynd i’r afael â hyn yn hytrach na’i anwybyddu fel sy’n digwydd ar hyn o bryd,” meddai wedyn.
“Mae’r polisi yn cydnabod rhai o’r problemau sy’n cael eu hachosi gan werthiant, ond dim ond fel rhan o’r broblem.
“Mae yfed dan oed allan o reolaeth ac mae’n cael ei ysgogi gan archfarchnadoedd a chadwyni manwerthu, ac mae’r un peth yn wir am yfed a gyrru.
“Mae’r dystiolaeth am hyn i’w gweld yn glir ar draws ein cymuned a chefn gwlad ac mae’n hen bryd i ni fynd i’r afael ag ef.”
Ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae ffigurau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod mwy nag un rhan o bump o oedolion yn Wrecsam yn yfed mwy na’r swm wythnosol o 14 uned o alcohol sy’n cael ei argymell.
Yn 2019/20, roedd tua 357 o dderbyniadau i’r ysbyty fesul 100,000 o boblogaeth Wrecsam o ganlyniad uniongyrchol i yfed alcohol.
Nodwyd bod alcohol hefyd yn cael effaith achosol ehangach mewn tua 1,767 o dderbyniadau.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi galw ar y cyngor i gynnwys gwybodaeth yn ei bolisi ynglŷn ag effaith pobl sy’n yfed alcohol gartref cyn mynd allan i’r dafarn.
Ar hyn o bryd mae Cyngor Wrecsam yn gweithio gydag Ysbyty Maelor Wrecsam, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wella’r broses o gasglu data ar yfed alcohol.
Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru y bydd y cynllun peilot yn “cynorthwyo’n fawr” i dargedu camau gorfodi lle mae angen.
Bydd yr adolygiad o bolisi’r cyngor yn cael ei ystyried gan gynghorwyr mewn cyfarfod o’i bwyllgor trwyddedu ddydd Llun (Hydref 25).