Mae’r prif weinidog Mark Drakeford wedi dweud y gallai datganoli Ystâd y Goron roi hwb i Gymru i fod yn arweinydd byd-eang ym maes ynni adnewyddadwy.

Un o strategaethau Llywodraeth Cymru wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yw manteisio i’r eithaf ar adnoddau naturiol y wlad, gan gynnwys ynni gwynt a thonnau.

“Mae’n bendant yn syniad y dylem ei gymryd o ddifrif. Mae Ystâd y Goron eisoes wedi’i datganoli yn yr Alban,” meddai Mark Drakeford.

“Mae gan Lywodraeth yr Alban ysgogiadau y gallan nhw eu defnyddio nad ydyn nhw ar gael yn uniongyrchol i ni.

“Yn yr Alban mae’n arf uniongyrchol y gall y llywodraeth ei ddefnyddio.”

Yn ystod ymweliad â’r Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth fe ddywedodd Mark Drakeford mai “cyfraniad mawr Cymru i ddyfodol carbon niwtral yw defnyddio’r asedau naturiol sydd gennym i fod ar flaen y gad o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy, boed hynny o wynt neu donnau neu ddŵr”.

“Mae daearyddiaeth ar ein hochr ni. Os ydych ar ochr orllewinol y Deyrnas Unedig, mae gennych y gwyntoedd ac rydym wedi ein hamgylchynu ar dair ochr gan ddŵr.”

Ystâd y Goron

Ystâd y Goron yw’r casgliad o diroedd ledled y Deyrnas Unedig sy’n eiddo i Frenhines Loegr.

Yng Nghymru, maen nhw’n cynnwys cannoedd o filltiroedd o’n glannau a’n harfordir.

Mae’r pwerau dros y tiroedd hyn eisoes wedi eu datganoli i’r Alban, ond mae tiroedd Cymru yn parhau dan reolaeth Llywodraeth San Steffan.

Mae’r refeniw sy’n cael ei gynhyrchu gan yr ystâd yn mynd yn syth i Drysorlys Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Strategaeth Net Sero

Hefyd, mae Mark Drakeford yn beirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig am beidio â rhannu eu strategaeth sero-net gyda Llywodraeth Cymru cyn ei chyhoeddi’r wythnos hon.

Mae gan y llywodraeth darged i wneud y wlad yn genedl garbon sero-net erbyn 2050.

“Mae gweithio ar draws y Deyrnas Unedig yn gwbl hanfodol,” meddai.

“Mae’n gas gen i gwyno ond mae papur sero net y Deyrnas Unedig yn gyd-destun hanfodol ar gyfer pethau y gallwn ni eu gwneud yng Nghymru.

“Cawsom addewid ym mis Mehefin y byddem yn gweld drafft da o hynny ym mis Gorffennaf. Yn y diwedd, doedden ni ddim yn ei weld o gwbl nes iddo gael ei gyhoeddi.”

Dywed Drakeford bod y ddegawd nesaf yn “gwbl hanfodol ar y daith i sero net erbyn 2050”.

“Rhaid inni gyflawni cymaint yn ystod y degawd nesaf ag sydd gennym yn ystod y 30 mlynedd diwethaf,” meddai.

“Mae hwn yn ddegawd o weithredu os ydym am fod ar y trywydd iawn rydym am fod arno.”

Datganoli

Ddoe (dydd Mercher, Hydref 20), fe ofynnodd Liz Saville Roberts, arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, i Boris Johnson gefnogi ei mesur i ddatganoli Ystâd y Goron.

Yn ôl Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, byddai hyn yn “dod â gwerth hanner biliwn o bunnoedd o botensial ynni gwynt a ffrwd llanw ar y môr o dan reolaeth Cymru”.

“Mae’n ddrwg gennyf orfod dweud wrthi ond yn fy marn i yw y byddai datganoli Ystâd y Goron yng Nghymru yn niweidio’r farchnad, yn cymhlethu’r prosesau presennol ac yn ei gwneud yn anos i Gymru, yn ogystal â’r DU cyfan, symud ymlaen [i fod yn genedl] sero net [Carbon],” meddai Boris Johnson wrth ymateb.

Bydd uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 yn cael ei chynnal yn ninas Glasgow yr wythnos nesaf.

 

Galw am ddatganoli Ystâd y Goron i ddod â £500 miliwn i Gymru

Jacob Morris

Mae AS Plaid Cymru Liz Saville Roberts wedi cyflwyno mesur gerbron Senedd San Steffan yn galw am ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru