Bydd menyw yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd heddiw (22 Hydref) ar gyhuddiad o lofruddio ei mab pum mlwydd oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Angharad Williamson, 30 oed o Sarn, yw’r trydydd person i gael ei chyhuddo o lofruddiaeth wedi i gorff Logan Mwangi gael ei ddarganfod yn Afon Ogwr ym mis Gorffennaf.

Ymddangosodd bachgen 14 oed o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddoe (21 Hydref) ar gyhuddiad o lofruddiaeth.

Siaradodd y bachgen er mwyn cadarnhau ei enw, ond does dim modd ei enwi oherwydd ei oedran.

Fe fydd y bachgen 14 oed yn ymddangos nesaf o flaen Llys y Goron Caerdydd, a chafodd ei roi ar gyrffyw rhwng 8yh a 8yb, i’w fonitro gan dag, nes hynny.

Gosododd y Barnwr Michael Fitton ddyddiad dros dro, 31 Ionawr 2022, ar gyfer yr achos.

Mae llys-dad Logan Mwangi, John Cole, 39 o Sarn, eisoes wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth, ac mae ef ac Angharad Williamson yn wynebu cyhuddiadau o wyrdroi cwrs cyfiawnder hefyd.

Cyhuddo llanc 14 oed o lofruddio Logan Mwangi, pump oed o Ben-y-bont ar Ogwr

Cafwyd hyd i gorff y bachgen bach mewn afon ger ei gartref