Mae pris cyfartalog tŷ yng Nghymru wedi cynyddu 12.5% yn y 12 mis rhwng Awst 2020 ac Awst 2021.

Roedd pris tŷ yn costio £195,000 ar gyfartaledd yng Nghymru fis Awst eleni, o gymharu â £173,000 y llynedd, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gan olygu cynnydd o £22,000.

Dim ond yr Alban welodd gynnydd blynyddol uwch na Chymru (16.9%), ac mae prisiau tai yno yn ddrytach nag erioed o’r blaen.

Dros y Deyrnas Unedig, bu cynnydd cyfartalog o 10.6% mewn prisiau, sy’n golygu bod tai £25,000 yn ddrytach fis Awst eleni na’r llynedd.

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali Nid yw Cymru ar Werth yn Nhrefdraeth fory (23 Hydref), er mwyn galw am weithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.

“Galw dal yn uchel”

O gymharu â mis Chwefror 2020, y mis llawn olaf cyn y cyfnod clo cyntaf, mae pris cyfartalog tŷ yng Nghymru wedi codi £30,000.

Ar gyfartaledd dros y Deyrnas Unedig, mae prisiau wedi codi dros £33,000 ers dechrau’r pandemig, meddai strategydd economaidd y Yorkshire Building Society.

“Mae hyn yn sylweddol uwch na faint o gyflog mae nifer o bobol yn ei ennill mewn blwyddyn,” meddai Nitesh Patel.

“Gyda’r egwyl ar y dreth stamp wedi dod i ben nawr, rydyn ni’n disgwyl i’r lefelau uchel diweddar o weithgarwch [yn y farchnad] arafu.

“Wedi dweud hynny, mae’r galw dal yn uchel gyda thystiolaeth bod perchnogion tai yn parhau i ystyried eu hanghenion ac mae nifer o aelwydydd wedi hel cynilon mawr drwy gydol y pandemig, a’r rheiny sy’n edrych at brynu eiddo mwy wedi cynyddu maint eu blaendal.

“Ac ar ochr y cyflenwad, mae nifer yr eiddo sy’n dod ar werth ar y farchnad yn lleihau, gan gynnig cefnogaeth bellach i brisiau.”

“Dianc o’r ddinas”

Dywedodd Iain McKenzie, Prif Weithredwr Urdd y Gweithwyr Eiddo, mai gwraidd y rhesymau dros y cynnydd mewn prisiau yw prinder stoc gan asiantaethau tai.

“Fe wnaeth nifer yr eiddo oedd ar gael i’w prynu ddechrau lleihau wedi’r cyfnod clo cyntaf, ac mae’n edrych fel y bydd y tueddiad hwn yn parhau tra bod y galw’n parhau i fod yn uchel.

“Mae’r ystadegau hyn yn dweud stori am bobol yn ‘dianc o’r ddinas’, gyda phrisiau Llundain yn cynyddu ar y raddfa arafaf yn y wlad a phrisiau’r Alban yn codi’n sydyn iawn.”

Parhau’n “fywiog”

Dywedodd un economegydd gyda chwmni Price Waterhouse Copper ei bod hi’n “annhebygol” y bydd arafu sylweddol yng ngraddfa’r cynnydd mewn prisiau.

“Wrth edrych i’r dyfodol, rydyn ni’n disgwyl i’r cynnydd mewn prisiau tai barhau’n gymharol fywiog, ond ar raddfa ychydig is na’r hyn rydyn ni wedi’i weld dros yr ychydig fisoedd diwethaf o ganlyniad i amodau’n dod yn ôl i arfer wedi Covid-19 a lleihad yn hyder cwsmeriaid yn sgil chwyddiant a phroblemau parhaus gyda stoc,” meddai Jamie Durham.

Ychwanegodd Mike Scott, prif ddadansoddwr asiantaeth dai Yopa, eu bod nhw’n disgwyl cynnydd pellach mewn prisiau tai ym mis Medi, gan fod nifer o bryniannau wedi cael eu rhuthro drwodd cyn i’r egwyl ar dreth stamp ddod i ben yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

“Rydyn ni’n disgwyl iddi arafu ychydig yn hwyrach yn y flwyddyn, ar ôl i’r egwyl ar dreth stamp stopio effeithio ar yr ystadegau, oherwydd mae yna nifer o ffactorau eraill yn rhoi hwb i weithgarwch a phrisiau’r farchnad dai.”