Mae math o rosyn newydd wedi cael ei enwi er anrhydedd i John Ystumllyn, un o arddwyr du cyntaf Cymru oedd yn byw ger Criccieth yng Ngwynedd.
Bu i gwmni Harkness Roses ddatblygu’r rhosyn – Rhosyn John Ystumllyn – mewn partneriaeth ag ymgyrch We Too Built Britain, sy’n brwydro am gydnabyddiaeth i leiafrifoedd ethnig.
Mae’n debyg mai dyma yw’r rhosyn cyntaf i gael ei enwi ar ôl person o leiafrif ethnig o Brydain.
Fe gafodd John Ystumllyn ei gludo yn y 1740au o Orllewin Affrica ac yntau yn fachgen ifanc, ac yn dilyn hynny, daeth i weithio i’r teulu Wynn o ystâd Ystumllyn, lle cafodd ei enw.
Daeth yn un o arddwyr du cyntaf Cymru, yn ogystal ag un o’r bobol ddu cyntaf i gael eu cofnodi yn y gogledd, ac fe briododd Margaret Gruffydd, sef y briodas gymysg cyntaf yng Nghymru hefyd.
“Dod â phobol ynghyd”
Wrth gyhoeddi enw’r rhosyn, fe ddywedodd cwmni Harkness Roses eu bod nhw’n “falch” o’i enwi ar ôl garddwr o leiafrif ethnig.
“Rydyn ni’n credu yng ngrym garddio i ddod â phobol ynghyd ac rydyn ni eisiau gwneud y maes yn fwy cynhwysol,” meddai’r cwmni mewn datganiad.
“Pan ddaeth We Too Built Britain atom ni, roedd hyn yn teimlo fel peth mor gadarnhaol i’w wneud. Efallai mai dyma un o’r rhosod pwysicaf sydd wedi ei lansio gennyn ni erioed.
“Rydyn ni am i’n rhosod adlewyrchu ac atseinio ar draws cymdeithas ac rydyn ni’n falch o lansio ein rhosyn cyntaf ar ôl lleiafrif ethnig Prydeinig.”
“Symbol o gyfeillgarwch”
Fe gyfeiriodd Liz Saville-Roberts, yr Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd, at y rhosyn yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe (dydd Iau, 21 Hydref).
“Mae Harkness Roses a We Too Built Britain heddiw’n lansio’r rhosyn cyntaf i gael ei enwi ar ôl person lleiafrifol ethnig yn y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Mae’r rhosyn yn cael ei enwi ar ôl John Ystumllyn, y person du cyntaf i gael ei gofnodi yng ngogledd Cymru, a gafodd ei gymryd o Affrica yn fachgen ifanc yn y 1740au, ac a dreuliodd weddill ei oes yng Nghriccieth lle bu’n gweithio fel garddwr.
“Ei briodas â dynes leol, Margaret Gruffydd, yw’r briodas gymysg gyntaf i gael ei chofnodi yng Nghymru.
“I ddathlu Mis Hanes Pobol Dduon, ac i ddathlu garddwyr ymhob man, a fydd yna ddigon o amser yn y Tŷ hwn i drafod y llu o straeon am hanes pobol ddu?
“Byddai hyn yn sicrhau bod rhosyn John Ystumllyn yn blodeuo fel symbol o gyfeillgarwch, cariad, caredigrwydd a chymuned.”
Wrth ymateb, roedd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Jacob Rees-Mogg, yn cytuno y dylid cydnabod y “cyfeillgarwch” sydd rhwng pleidiau, er gwaethaf anghytuno yn wleidyddol.
“Efallai ein bod ni’n anghytuno’n gryf ar bolisïau, a chwffio ein brwydrau yn egnïol yn y Siambr hon,” meddai.
“Mae’n rhaid inni gan fod y materion rydyn ni’n drafod yn bwysig, ond os gall y rhosyn Ystumllyn fod yn arwydd o gyfeillgarwch ar draws pob plaid wleidyddol, gall hynny fod yn rhywbeth inni ei blannu gyda balchder.”