Mae undeb amaeth arall wedi beirniadu cytundeb masnach newydd gyda Seland Newydd.
Dywed Undeb Amaethwyr Cymru (NFU) bod Llywodraeth Prydain yn barod i “aberthu ffermio a diogelwch y cyflenwad bwyd,” a hynny yn gyfnewid am “fuddion dibwys i’r economi.”
Mae’r cytundeb yn deillio o 16 mis o drafodaethau, ac mae Llywodraeth Prydain yn honni y byddai’n torri biwrocratiaeth i fusnesau ac yn rhoi terfyn ar dariffau ar allforion.
Ond mae Llywydd undeb ffermio NFU yn dweud y bydd y cytundeb yn agor y wlad i “nifer sylweddol ychwanegol o fwyd wedi’i fewnforio” tra’n “sicrhau bron dim i ffermwyr y Deyrnas Unedig.”
Fe wnaeth Llywodraeth yr Alban hefyd feirniadu’r cytundeb gan rybuddio y byddai’n “cynyddu’r niwed i’n heconomi sy’n cael ei achosi gan Brexit.”
“Seland Newydd fydd yn elwa fwyaf”
Yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Mercher, 20 Hydref, bod cytundeb masnach rhwng y Deyrnas Unedig a Seland Newydd wedi’i gytuno mewn egwyddor, roedd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts, yn lleisio ei bryderon.
“Mae ffigurau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei hun yn dangos bod buddion economaidd y cytundeb yma’n fach iawn,” meddai.
“Nid yw hynny’n syndod o ystyried bod poblogaeth Seland Newydd yn is na phoblogaeth yr Alban.
“Yn amlwg, Seland Newydd fydd yn elwa fwyaf o’r cytundeb yma gan ei bod yn caniatáu iddynt gynyddu eu hallforion bwyd i’r Deyrnas Unedig, gan gynrychioli bygythiad mawr i ffermwyr Cymru a Phrydain Fawr yn ogystal â diogelwch ein cyflenwad bwyd.”
“Tanseilio amaethyddiaeth”
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud y bydd cynnydd sylweddol yn y cig oen sy’n cael ei fewnforio i’r Deyrnas Unedig, yn ogystal â chig eidion, menyn a chaws.
Roedden nhw’n nodi hefyd bod yr holl derfynau ar gynnyrch cig oen sy’n cael ei fewnforio yn cael eu diddymu ar ôl 15 mlynedd.
“Nid yw’r cytundeb hwn, ynghyd â chytundeb masnach Awstralia a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, yn gadael fawr o amheuaeth bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn tanseilio amaethyddiaeth, cynhyrchu bwyd a diogelwch ein cyflenwad bwyd yn fwriadol neu’n ddiofal,” meddai Glyn Roberts.
“Mae cael gwared ar gymorth fferm a chynnydd mewn biwrocratiaeth a rheoliadau ar gyfer ffermwyr y Deyrnas Unedig ar yr un pryd y mae cytundebau masnach yn cael eu taro gyda gwledydd sydd â safonau rheoleiddio llawer is yn ychwanegu at yr argraff hon.”
Bydd yr undeb nawr yn parhau i rybuddio Aelodau Seneddol ac Aelodau o Dŷ’r Arglwyddi am beryglon y cytundeb masnach â Seland Newydd a chytundebau eraill, gan eu hannog i weithredu er budd eu hetholwyr pan ddaw i benderfyniadau yn Senedd.