Mae rhai wedi beirniadu penderfyniad Cyngor Abertawe i wario £156,000 ar chwe darn o gelf fydd yn harddu rhai o lwybrau seiclo a cherdded y ddinas a’r ardal ehangach.

Nid yw’r cyngor wedi penderfynu yn union lle fydd y celf newydd yn cael ei osod ar hyd y llwybrau sy’n 70 milltir o hyd.

Mae’r arian dan sylw yn rhan o £696,000 daeth gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo rhaglen “teithio actif” y cyngor.

Bwriad y darnau celf, yn ôl swyddogion, yw “cefnogi mentrau, grwpiau a diwylliant trwy roi llwyfan i dalent… a chreu platfform i gymunedau gael rhan yn y gwaith o siapio eu hardal leol a chynyddu’r nifer sy’n ymarfer corff”.

“Gwarthus”

Ond mae’r gwariant wedi ysgogi ymateb chwyrn gan y Cynghorydd Wendy Fitzgerald o’r grŵp gwleidyddol Independents@Swansea.

“Mae yn warthus,” meddai’r cynghorydd sy’n dweud ei bod yn cael trafferth denu arian ar gyfer mesurau diogelu’r ffyrdd yn ei ward, Penllergaer.

“Rydw i ar ddeall bod angen £5,000 i dalu am folards plastig i atal pobol rhag gyrru eu ceir ar ben y pafin tu allan i’r ysgol gynradd… ddylen ni ddim bod yn gwario’r arian yna ar waith celf.”

Ychwanegodd arweinydd yr wrthblaid y byddai yn well gan bobl Abertawe wario’r £156,000 yn llenwi tyllau yn y ffyrdd.

Byddai hynny, meddai’r Cynghorydd Chris Holley, o fudd i seiclwyr.

Budd

Y Cynghorydd Mark Thomas sydd yng ngofal y brîff trafnidiaeth ar Gabinet Cyngor Abertawe, a dywedodd ei fod yn deall pam bo rhai yn cwestiynu gwario’r £156,000 ar gelf, ac yn cynnig ffyrdd eraill o wario’r arian.

Ond dywedodd y byddai’r arian o fudd i’r artistiaid a’r grwpiau lleol fydd yn creu’r darnau celf.