Ar drothwy rali Cymdeithas yr Iaith yn Nhrefdraeth yn Sir Benfro, mae un o’r trefnwyr wedi nodi bod “gofid dybryd am ddyfodol y Gymraeg” yn yr ardal.
Ers dydd Iau, 21 Hydref, mae rhai o’r ymgyrchwyr wedi bod yn teithio fesul diwrnod o Dyddewi yng ngorllewin Sir Benfro, ac yn cyrraedd Trefdraeth ar gyfer y rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’ yfory.
Prisiau tai yn “amddifadu pobol leol”
Mae Hedd Ladd-Lewis, hanesydd lleol sy’n un o drefnwyr y rali, yn dweud bod y broblem yn ardaloedd fel Trefdraeth yng ngogledd Sir Benfro yn ofidus.
“Fe benderfynais i drefnu rali yma yn Nhrefdraeth am fod angen gwneud rhywbeth am y broblem tai,” meddai Hedd Ladd-Lewis.
“Ces i fy magu yn Nhrefdraeth ac mae’r dref wedi newid yn llwyr.
“Mae yna ofid dybryd am ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol wrth i brisiau tai amddifadu pobol leol o’r hawl a’r gallu i fyw yn eu cymunedau ac wrth i fwy o dai gael eu prynu fel ail dai ac AirBnBs.
“Mae yna fwy o dlodi rhent wrth i deuluoedd orfod talu rhent afresymol yn y sector breifat, a pha berson lleol gall fforddio talu £400,000 am dŷ teras?
“Felly beth fydd dyfodol yr ysgol gynradd? Rydym ni wedi gweld beth sy’ wedi digwydd yn Abersoch yn ddiweddar.
“Mae’n argyfwng ac mae’n hen bryd i’r Llywodraeth weithredu ar fyrder.
“Mae ganddynt ddyletswydd foesol i sicrhau fod pob unigolyn gyda’r hawl i fyw yn eu milltir sgwâr.
“A byddwn ni’n mynd â’r neges i Gaerdydd ar y 13eg o Dachwedd mewn rali arall.”
‘Dim ieuenctid, dim dyfodol’
Ar gyfartaledd, mae tŷ yn Sir Benfro yn costio £227,000, ond mae tai tair ystafell wely yn gwerthu am bron i £400,000 mewn ardaloedd fel Trefdraeth.
Gyda’r cyflog cyfartalog yn £26,466 yn y sir, mae pobol leol, a phobol ifanc yn enwedig, yn ei chael hi’n anodd prynu tŷ yno.
Un a fydd yn siarad yn y rali am ei phrofiad hi o chwilio am gartref yn yr ardal fydd Heledd Evans.
“Gyda chynnydd aruthrol ym mhrisiau tai eleni, mae dyfodol ieuenctid ein bro a gweddill Cefn Gwlad Cymru yn fwy ansicr nag erioed,” meddai.
“Dim ieuenctid, dim dyfodol i’n cymunedau gwledig Cymreig.”