Cododd prisiau petrol i’w pris cyfartalog uchaf yn y Deyrnas Unedig dros y penwythnos, gyda phrisiau disel ychydig yn is na’u lefel uchaf erioed.

Pris cyfartalog petrol erbyn ddoe (dydd Sul, Hydref 24) oedd 142.94c y litr, gan drechu’r record flaenorol o 0.46c.

146.5c oedd pris cyfartalog disel, ychydig yn is na’r record o 147.93c.

Caiff y data ei gyfrifo gan Experian Catalist a’i roi i’r RAC a’r AA.

Yn ôl llefarydd ar ran yr AA, mae’r prisiau’n debygol o arwain at fwy o yrwyr yn troi at gerbydau trydan.

Mae prisiau olew wedi cynyddu’n sylweddol ers dechrau’r flwyddyn, o ryw 50 doler y gasgen fis Ionawr i 85 doler erbyn hyn.

Yn ôl llefarydd ar ran yr RAC, pe bai prisiau olew’n cyrraedd 100 doler, gallai pris petrol godi i 150c y litr.