Mae’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Sir Drefaldwyn yn galw am agor banciau cymunedol yn y canolbarth.

Daw’r alwad gan Russell George ar ôl i nifer o gwmnïau gau eu banciau ledled Powys, gan gynnwys HSBC yn y Trallwng yn ddiweddar.

Tra ei fod yn cydnabod fod banciau’n dweud bod mwy a mwy o gwsmeriaid yn troi at fancio ar-lein, mae’n dweud bod digon o alw o hyd am fanciau ar y stryd fawr.

Fe fu’n cefnogi banciau cymunedol ers tro, gan gefnogi cynlluniau Banc Cambria i gyflwyno banciau mewn cymunedau sy’n darparu gwasanaethau llawn.

Cododd e’r mater yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf, gan alw am ddiweddariad ar y cynlluniau.

Cau banciau’n cael “effaith andwyol” ar gymunedau a chwsmeriaid

“Rwy’n awyddus i barhau i ymgyrchu er mwyn gweld gwasanaethau bancio wyneb yn wyneb ar ein stryd fawr unwaith eto,” meddai Russell George.

“Mae cau banciau wedi cael effaith mor andwyol ar gymunedau a chwsmeriaid, yn enwedig y sawl sy’n oedrannus a’r rhai sydd ag anableddau, ond mae yn oblygiadau ehangach hefyd i fusnesau lleol.

“Dw i wedi bod yn gefnogwr ers tro o ymyrraeth y Llywodraeth a chefnogaeth i fodel bancio cymunedol a fyddai’n gweld banciau corfforol yn agor unwaith eto ar y stryd fawr.

“Tra bod banciau wedi tynnu sylw at y defnydd o fancio ar-lein, mae yna angen mawr o hyd am bresenoldeb banciau’r stryd fawr.

“Gyda chynnydd Banc Cambria, hoffwn weld trefi fel Llanidloes, Machynlleth a’r Trallwng yn cael eu hystyried ar gyfer agor banciau unwaith eto ar ein stryd fawr.”