Mae dyn 61 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar draffordd yr M4 yng Ngwent.
Bu’n rhaid cau dwy lôn o’r draffordd i’r dwyrain tua 7 o’r gloch fore heddiw (dydd Mawrth, 23 Tachwedd), wrth i’r gwasanaethau brys ddelio â’r digwyddiad rhwng cyffordd 24 ger Coldra a chyffordd 23A ger Magwyr.
Fe gadarnhaodd yr heddlu bod y dyn o ardal Cil-y-coed wedi cael ei gludo i’r ysbyty ym Mryste ar ôl cael ei daro gan lori, lle bu farw yn ddiweddarach.
Dydyn nhw heb gadarnhau eto pwy oedd y dyn, ond mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion.
Mae’r gwrthdrawiad wedi achosi tagfeydd wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliadau brys ar safle’r ddamwain, ac mae dwy lôn yn parhau i fod ar gau.
Datganiad yr heddlu
“Derbyniodd yr heddlu adroddiad o wrthdrawiad ffordd ar yr M4, rhwng cyffordd 24 a 23, tua 6:50 fore heddiw (dydd Mawrth, 23 Tachwedd,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gwent.
“Mynychodd swyddogion y digwyddiad gyda rheolaeth o draffig ar ôl i ddyn gael ei daro gan lori.
“Cafodd dyn 61 oed o ardal Cil-y-coed ei gludo i Ysbyty Southmead ym Mryste gan barafeddygon, lle bu farw yn ddiweddarach.
“Mae ei deulu agosaf wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
“Mae un lôn wedi ail-agor, ond mae dwy lôn yn parhau i fod ar gau i’r dwyrain rhwng cyffordd 23 a 24, ac mae tagfeydd yn drwm ar ddwy ochr o’r M4.
“Rydyn ni’n apelio am unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â lluniau dash-cam i gysylltu â ni gan ffonio 101, a dyfynnu’r cyfeirnod 2100410666, neu gallwch yrru neges inni ar gyfryngau cymdeithasol.
“Mae’r digwyddiad yn parhau.”