Fe fu gostyngiad o 52% yn nifer y tai sy’n cael eu gwerthu dros y Deyrnas Unedig ym mis Hydref o gymharu â mis Medi, ar ôl i egwyl y dreth stamp ddod i ben.
Mae ystadegau Cyllid a Thollau EM (HMRC) yn amcangyfrif bod 76,930 o dai wedi cael eu gwerthu yn ystod y mis diwethaf, sydd 28.2% yn llai na mis Hydref 2020.
Yn ôl HMRC, mae “effaith y prynu [cyn i egwyl y dreth stamp ddod i ben] yn arbennig o amlwg yn Lloegr”.
Daeth egwyl y dreth stamp i ben yn Lloegr a Gogledd Iwerddon ar ddiwrnod olaf Medi.
Gostyngodd gwerthiannau blynyddol tai 50% ym mis Ebrill a Mai 2020 yn sgil effeithiau’r pandemig.
Cafodd egwyl dros dro i’r dreth stamp ei gyhoeddi’r haf diwethaf, a chafodd nifer uchel o dai eu gwerthu dros y Deyrnas Unedig ym mis Mawrth, Mehefin a Medi eleni.
Daeth yr egwyl i ben yng Nghymru ddiwedd Mehefin, ond er hynny fe wnaeth prisiau tai barhau i gynyddu ym mis Medi – gan gyrraedd record newydd.
Er bod llai o dai wedi eu gwerthu yn ddiweddar dros y Deyrnas Unedig, mae tua 842,250 o eiddo preswyl wedi cael eu gwerthu yn ystod y flwyddyn ariannol hon – y cyfanswm uchaf dros y degawd diwethaf.
Gostyngiad prisiau “yn annhebygol”
Dywedodd Sam Mitchell, Prif Weithredwr yr asiantaeth dai Strike: “Fe wnaeth trafodion eiddo arafu ym mis Hydref ar ôl dipyn o weithgarwch yn ystod diwedd yr egwyl ar dreth stamp ym mis Medi.”
Ychwanegodd Anne Clare Harper, prif weithredwr yr ymgynghorwyr eiddo SPI Capital, bod posib i ni ddisgwyl i bethau arafu ar y cyfan, “ond bod gostyngiad sylweddol mewn prisiau tai yn annhebygol”.
“Efallai mai’r broblem fwyaf sy’n wynebu’r farchnad dai wrth fynd yn ein blaenau yw prinder stoc sydd ar gael, sy’n golygu bod prisiau’n debygol o barhau’n gryf er bod gwerthiannau tai yn gostwng.”