Fe wnaeth pris cyfartalog tŷ yng Nghymru godi 15.4% rhwng mis Medi 2020 a mis Medi 2021, yn ôl ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Roedd tŷ’n costio £196,216, ar gyfartaledd, yng Nghymru yn ystod mis Medi eleni, gan gyrraedd record newydd.
Bu cynnydd o bron i £5,000 (10.7%) rhwng mis Awst a Medi, ac mae’r prisiau ar gyfer mis Medi ychydig dan £1,000 yn uwch na’r record flaenorol a gafodd ei gosod ym mis Mehefin.
Ym mis Medi 2020, roedd tŷ yn costio £170,030 ar gyfartaledd, gan olygu bod cynnydd o tua £26,000 wedi bod mewn prisiau mewn blwyddyn.
Gweddill y Deyrnas Unedig
Cymru sydd wedi gweld y cynnydd blynyddol mwyaf o holl wledydd y Deyrnas Unedig, ac ar gyfartaledd bu cynnydd blynyddol o 11.8% dros y pedair gwlad.
Ar gyfartaledd, roedd tŷ’n costio £270,000 ym mis Medi yn y Deyrnas Unedig, sydd £28,000 yn uwch na’r adeg yma llynedd, yn ôl ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Dywedodd Sam Beckett, Pennaeth Ystadegau Economaidd y Swyddfa Ystadegau Gwladol: “Mae twf prisiau blynyddol tai wedi cynyddu eto’r mis hwn, gyda phris cyfartalog tai’r Deyrnas Unedig ar record o £270,000 nawr, £6,000 yn ddrytach na’r record flaenorol a gafodd ei gosod ym mis Mehefin.
“Y Gogledd Orllewin welodd y twf blynyddol cryfaf ym mis Medi, tra bod Llundain, am y degfed mis yn olynol, yn parhau i weld y twf gwanaf.”