Bydd gwasanaethau deintyddol yng Nghymru yn cael £3m ychwanegol o gyllid newydd eleni i gefnogi eu hadferiad o’r pandemig.

Nod yr hwb ariannol gan Lywodraeth Cymru yw rhoi mynediad ychwanegol i gleifion at wasanaethau deintyddol.

Hefyd, o’r flwyddyn nesaf bydd deintyddiaeth ar Gwasanaeth Iechyd yn cael cymorth pellach drwy gyllid rheolaidd o £2 miliwn.

Daw’r cyhoeddiad wrth i wasanaethau deintyddol wynebu tarfu difrifol yn ystod y pandemig oherwydd cyfyngiadau Covid.

Y gobaith yw y bydd y cyllid hwn, sydd ar gael i Fyrddau Iechyd, yn helpu i fynd i’r afael â materion lleol a gwella mynediad i gleifion.

“Gwydn”

Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan mae “cyfyngiadau ac anawsterau recriwtio a chadw deintyddion wedi effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd.”

“Rydym yn disgwyl i’r cyllid hwn gefnogi byrddau iechyd i fynd i’r afael â’r materion hyn a sicrhau bod y gwasanaeth yn fwy gwydn yn y blynyddoedd i ddod.”

Arafodd gallu deintyddion i drin cleifion yn “sylweddol” ac er bod mwy o driniaethau arferol wedi ailddechrau yng Nghymru ers hynny wrth ddychwelyd gwasanaethau’n raddol, mae mesurau hylendid llym yn parhau i fod ar waith oherwydd Covid.

Mae’n rhaid i glinigau sicrhau bod cyfle gan ystafelloedd triniaeth amser i awyru a diheintio’r aer yn dilyn rhai triniaethau.

Mae tua 30,000 o bobl nawr yn cael eu gweld wyneb yn wyneb bob wythnos ar draws Cymru, a 2,500 o bobl eraill yn cael cyngor ac ymgynghoriadau, gan eu practisau deintyddol yn rhithiol.

Fodd bynnag, mae oedi o ran cael mynediad i apwyntiadau rheolaidd yn parhau i fod yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Croesawu’r cyhoeddiad

Mae dirprwy Brif Swyddog Deintyddol Cymru, Warren Tolley wedi croesawu’r cyhoeddiad.

Fe ddywedodd bod “deintyddiaeth wedi wynebu nifer o heriau dros y misoedd diwethaf wrth i ni addasu i fyw gyda’r pandemig, ond bydd sicrhau bod gennym y seilwaith a’r gefnogaeth i gynnal gwasanaethau yn rhoi hwb i’n hymdrechion i adfer ac yn ein helpu i ddychwelyd i lefelau gweithgarwch cyn y pandemig yn gyflymach.

“Bydd yr arian hwn yn ein cefnogi nid yn unig yn y tymor byr ond hefyd yn y tymor hir wrth i ni anelu at ddiwygio gwasanaethau a gwella mynediad at ofal deintyddol.”