Roedd y dyn a ffrwydrodd bom mewn tacsi yn Lerpwl wedi bod yn prynu deunyddiau i wneud bom cartref ers o leiaf mis Ebrill, meddai’r heddlu.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Russ Jackson fod Emad Al Swealmeen, oedd yn enedigol o Iran, wedi rhentu llety yn Lerpwl saith mis yn ôl ar gyfer cynllunio’r ymosodiad a pharatoi’r bom.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ger ysbyty yn Lerpwl ychydig cyn 11 y bore ar ddydd Sul y Cofio, a bu farw Al Swealmeen, 32 oed, yn dilyn y ffrwydrad.

Roedd gyrrwr y tacsi, David Perry, wedi cael man anafiadau, ac wedi gadael yr ysbyty’n ddiweddarach.

Ymchwiliad

Fe esboniodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Russ Jackson, bod Emad Al Swealmeen wedi bod yn casglu deurnyddiau ar gyfer y bom ers o leiaf mis Ebrill.

Dywedodd bod “darlun cymhleth yn dod i’r amlwg” ynglyn a sut yr oedd Al Swealmeen wedi mynd ati i brynu’r deunyddiau ar gyfer y ddyfais.

“Rydyn ni’n gwybod bod Al Swealmeen wedi rhentu’r eiddo o fis Ebrill eleni ac rydyn ni’n credu ei fod wedi bod yn prynu deunyddiau perthnasol ers yr adeg hynny o leiaf.”

Dywedodd Russ Jackson hefyd fod Emad Al Swealmeen wedi cael ei eni yn Irac ac wedi ceisio lloches yn y Deyrnas Unedig.

“Rydyn ni wedi canfod perthynas agos i Al Swealmeen, ac maen nhw wedi ein hysbysu iddo gael ei eni yn Irac,” meddai.

“Mae yna lawer o sylw yn y cyfryngau am Al Swealmeen ac mae’n amlwg ei fod yn hysbys i lawer o bobl.

“Rydyn ni’n parhau i apelio am bobl a oedd yn ei adnabod, yn enwedig y rhai a gysylltodd ag ef eleni wrth i ni geisio llunio’r digwyddiadau a arweiniodd at y digwyddiad hwn a’r rhesymau tu ôl iddo.

“Ar hyn o bryd dydyn ni heb ddod o hyd i unrhyw gysylltiadau oedd ganddo yng Nglannau Merswy, ond mae’r ymchwiliad yn parhau i symud yn gyflym, ac wrth i fwy o wybodaeth ddod yn hysbys, dydyn ni’n methu â diystyru cymryd camau yn erbyn eraill.”