Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros y cynnydd mewn costau byw.
Mae ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw (17 Tachwedd) yn datgelu bod chwyddiant wedi codi i’w lefel uchaf ers bron i ddegawd.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) roedd Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi codi o 3.1% ym mis Medi i 4.2% fis diwethaf – y lefel uchaf ers mis Rhagfyr 2011.
Mae’r naid, sy’n cael ei gyrru’n bennaf gan gostau tanwydd ac ynni cynyddol, yn rhoi pwysau pellach ar aelwydydd ledled y DU.
Yn ôl Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, mae’r cynnydd mewn costau byw i deuluoedd yn “argyfwng”.
“Mae ffigurau heddiw yn dangos bod Llywodraeth Geidwadol y DU yn methu’n llwyr â mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw,” meddai.
“Gyda chyfuniad o gostau gwresogi wedi cynyddu’n aruthrol yn ogystal â chynnydd mewn costau bwyd a thrafnidiaeth, bydd llawer o deuluoedd ledled Cymru yn cael trafferth i ymdopi’r gaeaf hwn.”
Cynnydd
Mae’r galw am olew a nwy yn codi prisiau ynni ledled y byd.
Mae hyn yn golygu biliau uwch i ddeiliaid tai, ac i fusnesau, y bydd llawer ohonynt yn trosglwyddo rhai neu’r cyfan o’r costau ynni ychwanegol i’w cwsmeriaid.
Mae prinder llawer o nwyddau, gan gynnwys deunyddiau adeiladu yn achosi problemau cyflenwi ac yn codi prisiau o ganlyniad i hynny.
Mae cymorth y Llywodraeth i fusnesau yn ystod y pandemig – fel llai o TAW ar gyfer lletygarwch – wedi dod i ben.
Cyfeiriodd Jane Dodds hefyd at effaith y cynnydd mewn costau byw ar bobl sy’n derbyn budd-dal Credyd Cynhwysol.
“Mae toriad creulon y Ceidwadwyr i Gredyd Cynhwysol wedi gwneud hyn yn waeth o lawer i nifer o aelwydydd ledled Cymru, yn enwedig gyda’r lefelau tlodi annerbyniol o uchel ar draws y wlad.”
Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei hawlio gan fwy na 5.8 miliwn o bobl yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ac mae tua 40% o bobl sy’n derbyn y taliad yn gweithio.
Cafodd y rhai oedd yn derbyn Credyd Cynhwysol £20 yr wythnos yn ychwanegol yn ystod y pandemig, ond daeth hyn i ben ddechrau’r mis hwn.
‘Angen mwy o gefnogaeth’
Ond mae Jane Dodds yn mynnu bod angen mwy o gefnogaeth ar Lywodraeth Cymru gan San Steffan.
“Rwy’n ddiolchgar am gyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn gynharach yr wythnos hon i ddarparu taliad untro o £100 i aelwydydd,” meddai.
“Ac i’r rheiny ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill y gaeaf hwn i helpu gyda biliau tanwydd, ymhlith mesurau eraill, ond i lawer ni fydd hyn yn ddigon.
“Mae angen mwy o gefnogaeth ar Lywodraeth Cymru ar frys gan San Steffan i helpu teuluoedd sy’n cael trafferthion drwy’r cyfnod anodd hwn.
“Rhaid i’r Ceidwadwyr roi’r gorau i’w syniadaeth o lymder a chofleidio buddsoddi mewn pobl os ydym am weld symudedd cymdeithasol gwirioneddol i leihau tlodi yng Nghymru.”