Mae chwyddiant yn y Deyrnas Unedig wedi codi i’w lefel uchaf ers bron i ddegawd wrth i brisiau uwch am ynni a thanwydd gynyddu costau byw.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) roedd graddfa chwyddiant Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi codi o 3.1% ym mis Medi i 4.2% fis diwethaf – y lefel uchaf ers mis Rhagfyr 2011.
Daw hyn wrth i brisiau nwy a thrydan gynyddu’n sylweddol gyda’r rheoleiddiwr Ofgem yn cynyddu’r cap ar brisiau ynni fis diwethaf o 12%.
Mae prisiau petrol hefyd wedi cynyddu gyda’r prinder tanwydd ar ddiwedd mis Medi a dechrau Hydref yn cynyddu prisiau ymhellach yn sgil costau uwch am olew.
Yn ôl yr ONS roedd prisiau petrol ar gyfartaledd wedi codi i’w lefel uchaf ers mis Medi 2012, sef 138.6 ceiniog y litr ym mis Hydref o’i gymharu a 113.2 ceiniog y litr flwyddyn yn gynt.
Roedd Banc Lloegr wedi rhybuddio yn gynharach y mis hwn y byddai chwyddiant yn codi’n sylweddol i’w lefel uchaf ers 10 mlynedd.
Mae’n rhagweld y bydd CPI yn codi 4.5% ym mis Tachwedd a tua 5% ym mis Ebrill y flwyddyn nesa, ei lefel uchaf ers 2011.