Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi “ymddiheuro’n ddiffuant” am yr “anghyfiawnder” yn eu gofal tuag at un o’u cleifion.

Derbyniodd Jean Graves driniaeth yn uned iechyd meddwl Hergest yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn 2013, ac fe wnaeth ei mab, David Graves, gwyno am y gofal ac ymateb y bwrdd iechyd i’w bryderon.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Weinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan, i gynnig datganiad yn esbonio pam ei bod hi wedi cymryd mor hir i ddatrys yr achos, a sut y gall pobol gael hyder na fydd y fath achosion yn digwydd eto.

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi dod i’r casgliad bod methiannau yn y gofal a gafodd Jean Graves, gan gynnwys  methu â chwblhau adroddiad diogelwch claf oedd yn cyfeirio at gleisiau ar ei chorff.

Fe wnaethon nhw hefyd fethu â llunio dadansoddiad cynhwysfawr er mwyn ffurfio cynllun gofal ar ei chyfer, meddai’r Ombwdsmon.

Canfyddiadau

Roedd mab Jean Graves, David Graves, wedi codi pryderon bod ei fam wedi disgyn sawl gwaith pan oedd hi yn yr ysbyty, ac wedi colli chwarter ei phwysau.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod yna fethiant i ddilyn canllawiau cenedlaethol ar gyfer osgoi diffyg maeth, ac nad oedd tystiolaeth eglur bod anghenion maeth Jean Graves wedi’u hateb yn briodol.

Fel rhan o’r setliad, mae Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cynnig “ymddiheuriad diffuant am y methiannau gafodd eu hadnabod a’r anghyfiawnder” a achosodd i’w mab a’r teulu.

Fe wnaeth y Bwrdd Iechyd dalu iawndal hefyd, “er mwyn cydnabod yr anghyfiawnder gafodd ei achosi o ganlyniad i’r methiannau hyn yn y gofal a’r driniaeth”, ac am y ffordd “wael” gafodd y cwyn ei drin.

Mae adroddiad yr Ombwdsmon hefyd yn nodi y bydd y Bwrdd Iechyd yn adolygu eu canllawiau ar sgrinio diffyg maeth, eu proses ar gyfer creu asesiadau risg disgyn, eu safonau wrth gynllunio gofal, a’u prosesau wrth adrodd am ddigwyddiadau yn ymwneud â diogelwch cleifion.

Yn ogystal, bydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn sicrhau bod eu staff yn nodi digwyddiadau yn y “system digwyddiadau”.

“Disgwyl gwell”

Wrth ymateb i’r canfyddiadau, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George AoS, fod canfyddiadau’r adroddiad yn “syfrdanol ac yn amlygu methiannau sylweddol mewn diogelwch cleifion a chadw cofnodion”.

“Pan mae pobol yn mynd i’r ysbyty, maen nhw mewn sefyllfa eithriadol o fregus ac maen nhw’n haeddu gofal iechyd tosturiol a da.

“Cleifion sy’n talu am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac maen nhw’n disgwyl gwell na hyn.

“Mae’n briodol fod y Gweinidog Iechyd yn cynnig datganiad dros y dyddiau nesaf yn esbonio pam ei bod hi wedi cymryd mor hir i ddelio gyda’r achos hwn a sut y gall pobol fod yn hyderus na fydd y fath achosion yn codi eto pan rydyn ni’n eu gweld nhw’n digwydd yn aml yng ngogledd Cymru.”

“Ymddygiad ofnadwy”

Ychwanegodd Darren Millar AoS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Ogledd Cymru, bod hwn yn “achos trasig” a bod y “boen ddioddefodd David Graves wedi cael ei wneud yn waeth gan y ffordd ofnadwy y cafodd ei gwynion am ofal ei ddiweddar fam eu trin”.

“Mae ymddygiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn ofnadwy yn yr achos hwn, mae cofnodion wedi cael eu newid, ac mae yna nifer o fethiannau diesgus yn y gofal,” meddai Darren Millar.

“Rydyn ni angen Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng ngogledd Cymru sy’n agored a thryloyw ac yn dysgu o’i gamgymeriadau; mae’n amlwg o’r adroddiad hwn bod gennym ni ffordd hir i fynd nes bydd hynny’n digwydd.”