Mae dros 40 o grwpiau sy’n ymgyrchu dros yr iaith Wyddeleg wedi llofnodi llythyr yn galw am fynd â Deddf Iaith Wyddeleg drwy San Steffan “ar unwaith”.
Daeth y grwpiau ynghyd yn ninas Belffast ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 16) er mwyn llofnodi’r llythyr at Brandon Lewis, Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon yn San Steffan, ac mae copi llawn o’r llythyr yn cael ei gyhoeddi yn The Irish News heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 17).
Roedd disgwyl i’r ddeddf ar gyfer yr iaith Wyddeleg gael ei chyflwyno yn San Steffan ym mis Hydref.
Fis Mehefin, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig addo pasio’r ddeddfwriaeth yn ystod yr hydref, pe na bai cynnydd ar y mater yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon yn Stormont.
Bryd hynny, bu bron i Sinn Féin beidio ag enwebu dirprwy Brif Weinidog yn sgil ffrae rhyngddyn nhw a’r DUP, ac roedd Stormont ar fin wynebu argyfwng.
Ond fe wnaeth yr addewid gan Brandon Lewis am Ddeddf Iaith atal hynny rhag digwydd.
Cefndir
Fis Ionawr y llynedd, fe wnaeth y DUP a Sinn Féin gytuno i rannu pwerau yn Stormont eto, ar ôl tair blynedd o fethu â dod i gytundeb.
Roedd Sinn Féin wedi dweud na fydden nhw’n cydweithio â’r DUP eto, oni bai bod deddfwriaeth ar gyfer yr iaith Wyddeleg yn cael ei phasio.
Er bod ffrae rhwng y ddwy blaid yn bygwth y sefydliad ers tro, cododd hynny i’w anterth dros yr haf pan wnaeth y Prif Weinidog, Arlene Foster, gamu o’r neilltu.
Yn ôl natur y swydd, os yw’r prif weinidog yn ymddiswyddo, yna mae’n rhaid i’r dirprwy adael ei swydd hefyd, felly bu’n rhaid i Michelle O’Neill gamu o’r neilltu.
Fe wnaeth Sinn Féin wrthod enwebu Michelle O’Neil eto nes bod y DUP yn rhoi sicrwydd y byddai’n bwrw ati i gyflwyno deddfwriaeth yn ymwneud â’r iaith, ac am nad oedd Edwin Poots, arweinydd newydd y DUP ar y pryd, yn fodlon rhoi sicrwydd ynghylch y ddeddfwriaeth, gofynnodd Sinn Féin i San Steffan ymyrryd yn y ffrae.
Ddiwedd mis Hydref, dywedodd Michelle O’Neill, y Dirprwy Brif Weinidog, fod “rhaid” i San Steffan gyflwyno’r ddeddfwriaeth.
Mae’r ddeddfwriaeth yn cynnwys creu comisiynwyr iaith ar gyfer y Wyddeleg a Sgots Ulster, yn ogystal â chreu Swyddfa Hunaniaeth a Mynegiant Diwylliannol.
‘Hyrwyddo, datblygu a defnyddio’r Wyddeleg’
Daw’r llythyr ar ran y gymuned Wyddeleg, “fel sefydliadau ar lawr gwlad sy’n hyrwyddo, datblygu a defnyddio’r iaith Wyddeleg bob dydd”.
Mae’n nodi’r terfyn amser, sef mis Hydref, ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth Degawd Newydd Dull Newydd a bod y dyddiad hwnnw wedi mynd heibio.
“Mae oedi pellach eto wrth ddatblygu hawliau ieithyddol yn destun pryder mawr ac yn anghyfiawn,” meddai’r llythyr, sy’n nodi ei bod yn “safbwynt cwbl resymol” fod cymunedau a rhanddeiliaid yn “disgwyl i’r Llywodraeth gadw at eu gair a gweithredu ar yr ymrwymiadau a wnaed”.
“Fe wnaethoch chi addewid, ac rydym yn disgwyl i chi ei anrhydeddu,” meddai, gan ychwanegu y byddai “unrhyw beth llai, heb amheuaeth, yn esgeuluso dyletswydd ac yn sarhad ar y miloedd o bobol sydd, dros y degawdau diwethaf, wedi ymgyrchu a lobïo am gydraddoldeb a hawliau ieithyddol”.
Cytundeb Gwener y Groglith
Mae’r llythyr wedyn yn nodi ymrwymiad fel rhan o Gytundeb Gwener y Groglith 1998 i “weithredu pendant” i hybu a gwarchod yr iaith Wyddeleg.
Yn 2006, meddai, gwnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig “ymrwymiad gwleidyddol clir” i gyflwyno deddfwriaeth o ran yr iaith fel rhan o gytundeb heddwch rhyngwladol.
“Mae’r ymrwymiadau hynny yn dal ar y gweill,” meddai.
“15 mlynedd yn ddiweddarach, nid yn unig y daeth eich Llywodraeth yn gyd-warantydd i’r Cytundeb Degawd Newydd Dull Newydd, ond ei bod wedi cyd-awdura’r union ddeddfwriaeth dan sylw, ochr yn ochr â Llywodraeth Iwerddon.
“Roedd y ddeddfwriaeth hon yn gydran oedd yn gonglfaen y cytundeb hwnnw. Mae iddi gefnogaeth fwyafrifol drawsbleidiol yn Stormont, San Steffan a Dulyn.
“Ni ellir caniatáu i’r DUP ac eraill hwyluso rhoi ein cymuned ar y cyrion a’i chau allan yn barhaus.
“Mae’r holl derfynau amser hyd yn hyn wedi mynd heibio ac eto, rydyn ni’n dal i aros.
“Mae hyder y gymuned bellach yn eithriadol o isel.
“Mae’r dyddiau pan gâi siaradwyr Gwyddeleg eu trin fel dinasyddion eilradd yma drosodd bellach.
“Heddiw, rydym yn gofyn am gyfarfod brys gyda chi, fel Ysgrifennydd Gwladol, ynghylch eich cynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth iaith Wyddeleg.
“Yn anad dim arall, rydym yn galw ar y Llywodraeth Brydeinig i symud y ddeddfwriaeth hon ar unwaith yn San Steffan heb oedi pellach.
“Mae oedi o ran hawliau’n amddifadu hawliau.
“Rydym yn aros am eich ymateb.”