Bydd tasglu yn cyfarfod heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 17) i chwilio am ddatrysiadau i wella diddordeb y cyhoedd mewn newyddiaduraeth yng Nghymru.
Mae Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) wedi rhoi croeso cynnes i dasglu Llywodraeth Cymru a diwydiant y cyfryngau.
Ar ôl cyfarfod, bydd y tasglu’n adrodd eu hargymhellion wrth Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Cyfryngau Llywodraeth Cymru.
Mae’r grŵp yn cynnwys swyddogion o Lywodraeth Cymru, Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr, a chynrychiolwyr o Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd.
‘Toriadau’
Dywed Pam Morton, swyddog cenedlaethol Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr ar gyfer Cymru fod “pandemig Covid-19 wedi rhoi pwysau anferth ar y cyfryngau”.
“Ac roedd y rôl o ohebu am yr argyfwng iechyd yn fater o fyw neu farw, mewn sawl achos, i gynulleidfaoedd yng Nghymru,” meddai.
“Roedd nifer y papurau newydd Cymreig wedi cael eu cwtogi yn sgil toriadau i niferoedd newyddiadurwyr a diffyg buddsoddi mewn newyddiaduraeth hyd yn oed cyn i’r feirws ymddangos.
“Mae Cynllun Adfer Newyddion Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr yn cyflwyno ystod o ddatrysiadau a strategaethau i roi diddordeb cyhoeddus mewn newyddiaduraeth wrth wraidd diwydiant cyfryngau adfywiedig Cymru.”
‘Heriau a phwysau’
“Mae diddordeb cyhoeddus mewn newyddiaduraeth yng Nghymru wedi wynebu heriau a phwysau yn y blynyddoedd diwethaf, o lai o bapurau newydd i gynnydd mewn ffynonellau newyddion amgen, i effaith pandemig Covid-19 ar waith newyddiadura dros Gymru,” meddai Dawn Bowden wedyn.
“Dw i wrth fy modd fod Cymru Creadigol yn gweithio’n agos gydag Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr i arwain wrth greu’r grŵp gweithiol hwn, sydd gan gynrychiolaeth dros y diwydiant.
“Bydd hyn yn caniatáu trafodaethau cynhyrchiol ar y ffordd orau i symud ymlaen a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth gefnogi sector gynaliadwy, wydn, sy’n tyfu, dros y blynyddoedd i ddod.”
‘Meddwl am ddatrysiadau’
“Cafodd dirywiad y cyfryngau yng Nghymru ei gyflymu gan y pandemig gyda nifer o newyddiadurwyr yn cael eu diswyddo,” meddai David Nicholson, aelod gweithredol Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr yng Nghymru.
“Yn ddiweddar, mae swyddfeydd papurau newydd dros Gymru wedi bod ar gau gyda disgwyl i newyddiadurwyr weithio o adref.
“Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gytuno ei bod hi’n gall sefydlu grŵp gweithiol teiran i feddwl am ddatrysiadau i nifer o’r problemau sy’n wynebu ein diwydiant yng Nghymru.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr dros Gymru, a’r diwydiannau rydyn ni’n eu cynrychioli, er mwyn sicrhau bod y sector cyfryngau dros Gymru yn gwella gyda gweithlu amrywiol.”