Bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio ar reolau newydd i’w hatal rhag cael eu talu am waith ymgynghorol tu allan i San Steffan.
Daw hyn yn sgil dadl newydd dros “lygredd” yn San Steffan, a chyhuddiadau am “driciau budr” gan y Torïaid.
Cyhoeddodd Boris Johnson ddoe (16 Tachwedd) ei fod yn cefnogi’r cynnig gan y Blaid Lafur i wahardd Aelodau Seneddol rhag gwneud gwaith ymgynghorol maen nhw’n cael eu talu amdano.
Mae’r Llywodraeth wedi cynnig diwygiad i gynnig gwreiddiol Llafur, gan ennyn ymateb chwyrn gan y Blaid Lafur, sy’n cyhuddo gweinidogion o “wanhau” eu cynnig, gan ei wneud yn anorfodol.
Mae’r Blaid Lafur yn galw am wahardd “unrhyw waith gyda thâl er mwyn cynnig gwasanaethau fel strategydd, cynghorydd neu ymgynghorydd seneddol”.
Mae’n cynnwys amodau fyddai’n gwneud hi’n ofynnol i Bwyllgor Safonau Tŷ’r Cyffredin wneud cynigion ar gyfer gorfodi’r gwaharddiad a sicrhau amser i’w trafod a phleidleisio arnyn nhw yn Nhŷ’r Cyffredin.
O gymharu, mae diwygiad y Llywodraeth yn cefnogi gwaith y Pwyllgor Safonau i ddiweddaru cod ymddygiad Aelodau Seneddol.
“Triciau budr”
Dywedodd Thangam Debbonaire, Dirprwy Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, bod y Ceidwadwyr “yn trio gwanhau’r” mesur.
“Mae Boris Johnson wedi cael ei wthio i gornel ac un munud mae’n derbyn ein cynnig mewn llythyr at y Llefarydd ond yna mae’n cyflwyno diwygiad a fydd yn cael gwared ar y rhan canolog sy’n sicrhau na fydd unrhyw weithredu.
“Mae hyn yn nodweddiadol o driciau budr Torïaidd.”
Bydd ail gynnig gan y Blaid Lafur yn trio gorfodi’r Llywodraeth i ryddhau cofnodion o gyfarfodydd rhwng gweinidogion, swyddogion a Radox.
Radox yw’r cwmni wnaeth gyflogi Owen Paterson, y cyn-Aelod Seneddol wrth wraidd y ddadl hon, fel ymgynghorydd.
Diwygiadau
Mae Gweinidogion yn gobeithio y bydd eu diwygiad nhw’n denu Aelodau Seneddol Torïaidd sy’n anfodlon gyda’r modd y gwnaeth y Llywodraeth ddelio gyda’r mater.
Fodd bynnag, mae’r diwygiad wedi gwylltio rhai Ceidwadwyr, sy’n flin bod posib y bydd rhaid iddyn nhw roi’r gorau i swyddi ymgynghorol.
Er hynny, mae hi’n edrych yn annhebygol y bydd digon o wrthwynebiad i atal diwygiad y Llywodraeth rhag cael ei basio.
Bydd craffu pellach ar Boris Johnson pan bydd yn wynebu cwestiynau gan Aelodau Seneddol ar Bwyllgor Cysylltiadau Tŷ’r Cyffredin am “foeseg a phriodoldeb mewn Llywodraeth”.
Fe wnaeth y Prif Weinidog egluro ei gynigion ar gyfer gwneud diwygiadau mewn llythyr at Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, Lindsay Hoyle, a oedd yn cynnwys dau argymhelliad gan y Pwyllgor Safonau’n ymwneud â buddiannau allanol Aelodau Seneddol yn 2018.
Roedd y rhain yn cynnwys newid y cod ymddygiad fel y dylai unrhyw waith allanol “fod o fewn cyfyngiadau rhesymol”, ac “na fyddai’n eu hatal rhag cwblhau eu dyletswyddau’n llawn”.
Byddai ei newidiadau yn cynnwys gwahardd Aelodau Seneddol rhag derbyn gwaith â thâl fel strategwyr, ymgynghorwyr, na chynghorwyr, a’u gwahardd rhag derbyn taliadau neu gynigion gwaith i weithredu fel ymgynghorwyr gwleidyddol.
Ddoe, fe wnaeth Aelodau Seneddol bleidleisio dros gymeradwyo’r ymchwiliad a ddaeth i’r casgliad bod Owen Paterson wedi torri’r cod ymddygiad drwy lobio gweinidogion a swyddogion ar ran dau gwmni oedd yn talu dros £100,000 iddo’r flwyddyn.
Fe wnaeth y cynnig ddadwneud y cynigion i’w warchod rhag cael ei wahardd am 30 diwrnod.
Dywedodd y cyn-Brif Weinidog Theresa May bod yr ymdrechion i drio achub croen Owen Paterson yn “anaddas, annoeth, ac yn anghywir”.