Mae Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i rannu eu harbenigedd, gwybodaeth dechnolegol ac adnoddau meddygol gyda gwledydd mwy difreintiedig y byd.
Dywedodd Heledd Fychan, Llefarydd Plaid Cymru dros Faterion Rhyngwladol, ei bod am weld y cymorth yn cael ei roi gan Gymru tuag at raglenni brechu yn fyd-eang.
Ym mis Medi, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod 40,000 dos o frechlyn Astra Zeneca wedi mynd yn wastraff, tra bod 600,000 o frechlynnau wedi’u gwastraffu yn y Deyrnas Unedig gyfan.
Wrth arwain dadl yn y Senedd heddiw (Tachwedd 17), bydd yr AoS dros Ganol De Cymru yn galw ar y Llywodraeth i weithredu fel “cenedl sy’n cael ei hystyried yn gyfrifol yn fyd-eang” – ymrwymiad a wnaed o dan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 2015.
Fis Awst, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn danfon gwerth £ 7 miliwn o fasgiau, gynau a hylif diheintio dwylo, nad oedd eu hangen yng Nghymru i Nambia.
Yn ogystal roddwyd £500,000 ar gyfer offer ocsigen ac i hyfforddi i nyrsys.
Cyfrifoldeb Moesol
Gyda gwledydd cyfoethog yn creu mwy o frechlynnau nag y gallant eu defnyddio mae Heledd Fychan yn dweud fod osgoi rhoi stoc sydd dros ben i wledydd sy’n dioddef yn “foesol resynus”.
“Mae pandemig byd-eang yn gofyn am ymateb byd-eang.
Mae gan Gymru ei rhan i’w chwarae wrth ddod â’r pandemig i ben a diogelu cymunedau ledled y byd.
Yn fwy na hynny, mae ein cyfrifoldeb byd-eang wedi’i gynnwys yn y gyfraith,” meddai Heledd Fychan.
“Dywedwyd droeon nad yw’r feirws yn gwahaniaethu ond ni ellir dweud yr un peth am fynediad i’r brechlynnau.
“Mae brechlynnau’n cael eu dosbarthu yn seiliedig ar gyfoeth a chenedligrwydd, yn hytrach nag angen – nid yn unig y mae’r rhaniad hwn yn anghyfiawn, mae’n foesol resynus.
“Dyna pam y dylai Cymru fod yn arwain y ffordd o ran rhannu ein harbenigedd a rhannu cymorth hirdymor i wledydd incwm isel er mwyn dod â’r pandemig dan reolaeth ar lefel fyd-eang.”
Oxfam Cymru
Mae’r galwadau hyn wedi eu hadleisio gan Oxfam Cymru, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar San Steffan i godi eu gwaharddiad ar gwmnïau fferyllol i rannu gwybodaeth am y brechlynnau gyda gweddill y byd.
“Rhaid i Brif Weinidog Cymru a’r Senedd anfon neges unedig, ddiamwys at Brif Weinidog Prydain yn dweud na fyddant yn sefyll yn segur tra bod bywydau’n cael eu peryglu’n ddiangen ledled y byd ac, o ganlyniad, yma yng Nghymru. Does neb yn ddiogel rhag Covid nes ein bod ni i gyd wedi ein brechu.”
“Mae’n warthus bod Llywodraeth y DU yn parhau i rwystro ymdrechion i atal y patentau ar dechnolegau Covid sy’n atal cwmnïau fferyllol rhag rhannu’r wybodaeth a allai achub bywydau.”
Llywodraeth Cymru
Mewn datganaid fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Golwg360:
“Mae’r cyflenwad brechlyn yn cael ei gaffael ledled y DU ac er bod y DU yn rhoi brechlynnau i’w dosbarthu i wledydd eraill, rydym wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i wneud hyd yn oed mwy.
“Rydym yn falch o dimau brechu GIG Cymru sydd wedi cadw gwastraff brechlyn cyn lleied â phosibl. Credwn mai ein lefelau gwastraff brechlyn yw’r isaf yn y DU.
“Mae gan Gymru berthynas hirsefydlog â Namibia ac rydym wedi rhoi gwerth miliynau o bunnoedd o hylif diheintio dwylo, offer PPE a phrofion LFT, yn ogystal â £500,000 ar gyfer offer ocsigen a hyfforddiant i nyrsys.”