Mae criwiau tân wedi bod wrthi dros nos yn trio diffodd tân mawr mewn unedau storio llyfrau ail law yn Sir y Fflint.

Cafodd criwiau tân eu galw i’r digwyddiad mewn warws fasnachol fawr ar Ystad Ddiwydiannol Spencer yn Drury ger Bwcle, lle mae Berwyn Books wedi’u lleoli, tua 5yh ddoe (16 Tachwedd).

Yn ôl Berwyn Books, “mae popeth wedi mynd”.

Roedd criwiau tân yn dal i fod yno fore heddiw, ac yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru roedd wyth injan dân yno ar un adeg.

Effeithiodd y tân ar sawl uned storio, a oedd yn cynnwys llawer iawn o lyfrau, meddai’r Gwasanaeth.

“Popeth wedi mynd”

Nid yw achos y tân wedi’i gadarnhau eto, ond dywedodd Berwyn Books ar Facebook eu bod nhw’n “ffodus eithriadol” nad oedd neb yn yr adeilad ar y pryd, a bod eu tîm yn ddiogel ac yn iach.

“Fel y bydd nifer ohonoch chi’n gwybod, dw i’n siŵr, roedd yna dân yn ein siop neithiwr. Buasem ni’n caru gallu dweud wrthych chi mai digwyddiad bach yn unig oedd hwn, ond yn anffodus nid dyna’r achos.

“Fe wnaeth y tân ledaenu drwy’r holl adeilad.

“Dydyn ni ddim wir yn gwybod beth i’w ddweud, heblaw bod popeth wedi mynd.

“Yn amlwg, mae’r siop ar gau. Am nawr, mae popeth ar stop, a dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.

“Rydyn ni eisiau diolch i’r Gwasanaeth Tân. Fe wnaeth dwsinau o ddiffoddwyr weithio drwy’r nos i geisio diffodd y tân, ac roedden nhw’n hyfryd ac fe wnaethon nhw bopeth o fewn eu gallu.”

Mae diffoddwyr tân yn bresennol yn yr ardal fore heddiw, ac mae Heddlu Gogledd Cymru yno’n rheoli traffig hefyd.