Bydd Amazon yn stopio derbyn taliadau drwy gardiau credyd Visa yn y Deyrnas Unedig y flwyddyn nesaf.

Mewn e-bost at gwsmeriaid, dywedodd y cwmni na fydden nhw’n derbyn cardiau credyd Visa sydd wedi’u rhoi yn y Deyrnas Unedig o 19 Ionawr ymlaen.

Yn ôl Amazon, maen nhw’n gwneud y penderfyniad oherwydd y “ffioedd uchel mae Visa yn eu codi am brosesu trafodion cardiau credyd”.

Bydd cwsmeriaid yn dal i allu defnyddio cardiau debyd, gan gynnwys rhai Visa, a chardiau credyd sydd ddim yn rhai Visa, meddai’r cwmni.

“Rhwystr”

Dywedodd llefarydd ar ran Amazon: “Mae’r gost o dderbyn taliadau gyda chardiau’n parhau i fod yn rhwystr i fusnesau sy’n trio cynnig y prisiau gorau i gwsmeriaid.

“Dylai’r prisiau hyn ostwng dros amser gyda datblygiadau technolegol, ond yn hytrach maen nhw’n aros yn uchel neu’n cynyddu, hyd yn oed.

“O ganlyniad i gostau talu uchel parhaus Visa, mae’n ddrwg gennym ni ddweud na fydd Amazon.co.uk yn derbyn cardiau credyd Visa sydd wedi’u rhoi yn y Deyrnas Unedig o 19 Ionawr 2022 ymlaen.

“Wrth i’r ffordd mae pobol yn talu’n newid yn sydyn dros y byd, byddwn ni’n parhau i arloesi ar ran cwsmeriaid er mwyn ychwanegu a hyrwyddo opsiynau talu cyflymach, rhatach, a mwy cynhwysol yn ein siopau dros y byd.”