Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi cefnogaeth ariannol i fusnesau sy’n cael eu heffeithio gan basys Covid.
Daw’r alwad ar ôl i nifer o fusnesau fynegi pryderon ynglŷn â’r costau ychwanegol o weithredu a phlismona’r system newydd, sy’n nodi bod rhaid dangos pàs Covid i gael mynediad i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.
Mae hynny yn weithredol ers dydd Llun, Tachwedd 15, ac roedd eisoes yn rhaid dangos pàs er mwyn cael mynediad i glybiau nos a digwyddiadau torfol mawr, fel gemau chwaraeon.
Fe gyhoeddodd sinema Llanfyllin heddiw (dydd Mercher, 17 Tachwedd) y byddan nhw’n gohirio pob sioe oherwydd eu rhwystredigaeth gyda’r cynllun newydd.
Galwad
Roedd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailfeddwl eu cynllun pasys Covid presennol.
“Unwaith eto, rydw i’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth ariannol i fusnesau sy’n cael eu heffeithio gan y cynllun pasys Covid difeddwl,” meddai.
“Dydy llawer o sinemâu a theatrau ledled Cymru yn syml yn methu ag ymdopi â’r costau ychwanegol i weithredu’r cynllun, ac rwy’n bryderus y bydd hyn yn arwain at farwolaeth sinemâu a theatrau bach ar draws y wlad pe bai’r mater yn cael ei anwybyddu.
“Rydw i am ailadrodd fod Llywodraeth Cymru yn dal heb ddarparu tystiolaeth a yw’r cynllun yn lleihau lledaeniad Covid-19 na pham bod sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yn cael eu dewis yn hytrach na llefydd eraill dan do.
“Yn olaf, rwy’n annog Llafur Cymru a Phlaid Cymru i beidio cefnogi unrhyw ymestyniad arall i’r cynllun.
“Pe bai’r cynllun yn ehangu i gynnwys sectorau eraill yn y diwydiant lletygarwch, yn cynnwys bwytai, caffis a bariau, gallai gael effaith drychinebus ar y diwydiant yng Nghymru.”
Ymateb y Llywodraeth
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae achosion o coronafeirws yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel iawn.
“Mae Pàs Covid y Gwasanaeth Iechyd yn ffordd arall rydym yn cryfhau’r mesurau sydd gennym ar waith i’n cadw ni i gyd yn ddiogel – ac i gadw busnesau ar agor.
“Rydym yn parhau i gefnogi busnesau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ofyn am Bàs Covid gydag ystod o gyngor ac arweiniad.”