Mae Aelodau Seneddol Llafur wedi pwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am fwy o arian i ymchwilio i gyflwr tomenni glo yng Nghymru, a’u sefydlogi i atal “trychineb Aberfan arall”.
Yn ystod cwestiynau i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, dywedodd Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, Chris Bryant, fod angen mwy o gyllid ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thipiau glo peryglus.
“Un o’r problemau sydd gennym yn y Rhondda yw bod gennym nifer fawr o hen domenni glo segur, ac mae un ohonynt, mae’r gweinidog yn gwybod, y llynedd, wedi llithro i lawr i’r afon. Costiodd £14 miliwn inni drwsio hynny,” meddai.
“Gallwn ni, os gwelwch yn dda, gael mwy o arian er mwyn osgoi trychineb Aberfan arall.”
Ers tirlithriad tomen lo yn Nhylerstown y llynedd mae galwadau wedi cynyddu ar Lywodraethau Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu.
Eisoes mae Comisiwn y Gyfraith yn edrych ar ba gamau gweithredu y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i ddatrys sefyllfa’r tomenni segur.
Amcangyfrifir bod y gost o glirio tipiau glo, sydd wedi eu lleoli’n bennaf yn y de-ddwyrain, rhwng £500 a £600 miliwn, ac mae Llywodraeth Cymru yn mynnu mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddylai dalu’r pris.
‘Cymru wedi ei hariannu’n ddigonol’
Ond mae Boris Johnson wedi mynnu bod tipiau glo yn fater datganoledig, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn £2.5 biliwn o arian ychwanegol yng Nghyllideb y Canghellor.
Wrth ymateb fe ddywedodd David TC Davies, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, y dylai’r aelod fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi ei hariannu’n ddigonol i dalu am y gwaith.
“Mae £2.5 biliwn o arian ychwanegol wedi’i ddarparu i Lywodraeth Lafur Cymru,” meddai.
“Os oes tomenni glo peryglus yn ei etholaeth yna fe fyddwn yn ei annog i siarad â’i gydweithwyr yn Llafur Cymru a gofyn iddynt ddarparu’r arian a datrys y broblem cyn gynted â phosibl.”
Gwnaeth Aelod Seneddol Llafur, Alex Davies-Jones, hefyd alw am esboniad pellach gan David TC Davies gan ddweud fod y Prif Weinidog, Boris Johnson, wedi dweud rai wythnosau nôl yn y siambr ei fod “am geisio trwsio” hyn gan addo “siarad â Llywodraeth Cymru.”
Fe ddywedodd David TC Davies “Nid wyf eto’n gyfrifol am ddyddiadur y Prif Weinidog ond rwy’n gwybod ei fod yn cysylltu â Phrif Weinidog Cymru ar bob cyfle.”
“O ran tomenni glo, mae’n fater datganoledig a gwyddom nad yw Llywodraeth Lafur Cymru fel pe bai’n ein croesawu ni’n cymryd rhan mewn materion datganoledig.”
Fis diwethaf, fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru bod 327 o domenni glo mewn 2,456 o safleoedd ar draws y wlad yn cael eu hystyried yn rhai risg uchel.
- Gallwch ddarllen mwy am y pryder am domenni glo Cymoedd y de yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon, isod.