Mae heddiw (Hydref 21) yn nodi 55 mlynedd ers trychineb Aberfan, pan lithrodd tomen lo ar ysgol gan ladd 116 o blant.

A bu’r gwaith o ddiogelu tomenni glo Cymru – a’r cyllid i dalu am y gwaith hwnnw – yn destun trafod yn ystod Cwestiynau’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn y Senedd.

Yr wythnos ddiwethaf fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru bod 327 o domenni glo mewn 2,456 o safleoedd ar draws y wlad yn cael eu hystyried yn rhai risg uchel – a galwodd am gyllid gan San Steffan i’w diogelu.

Ym mis Medi dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, fod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig “gyfrifoldeb cyfreithiol a moesol” i gynyddu’r cyllid oherwydd ei fod yn fater sy’n deillio o oes cyn datganoli.

Mynnodd y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddefnyddio’r Adolygiad o Wariant yr hydref hwn i rannu cyfrifoldeb a dyrannu cyllid hirdymor.

Amcangyfrifwyd y bydd angen o leiaf £500m i £600m dros y 10 i 15 mlynedd nesaf.

Yn seiliedig ar wybodaeth gan yr Awdurdod Glo, mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif bod mwy na 40 y cant o holl dipiau glo’r Deyrnas Unedig wedi’u lleoli yng Nghymru a bod tua un o bob saith o’r rhain yn cael eu hystyried yn rhai risg uchel.

“Diogelwch tomenni glo yn faes datganoledig”

Yn ystod Cwestiynau’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, dywedodd Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros y Newid Hinsawdd, Janet Finch-Saunders AoS, fod angen sicrwydd bod mesurau’n cael eu cymryd yn brydlon i’w diogelu gan ystyried bod galw trwm yn debygol dros y gaeaf.

“Mae ein cymunedau’n haeddu Llywodraeth Cymru sy’n onest am ei chyfrifoldebau ac yn weithredol wrth amddiffyn y rhai sydd mewn perygl mawr,” meddai.

“Ac eto, er bod arolygiadau wedi dechrau ar domennu risg uchel, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddadlau o ble y bydd y cyllid sydd ei angen yn dod.

“Barn dros dro Comisiwn y Gyfraith, yn eu papur ymgynghori, yw bod diogelwch tomenni glo yn faes datganoledig. Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru dderbyn a chytuno â’r farn hon.”

‘Bradychiad arall eto’

Yn ystod y sesiwn, mynnodd Delyth Jewell, AoS Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru, nad Cymru ddylai fod yn gyfrifol am dalu dros gyllido diogelwch y tomenni hyn.

“A fyddech chi’n galw eto ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i dalu am ei brad, wedi’r cyfan, aur du yw glo. Mae’n anodd dychmygu y cyfoeth a grëwyd ar draul cymunedau Cymru, ac rydym wedi cael ein gadael yn y llwch… pam mai Cymru ddylai dalu am glirio’r llanast hwn?”

Fe ymatebodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol, drwy ategu bod cyfrifoldeb “moesol, cyfreithiol a gwleidyddol” ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â diogelwch tomenni glo.

“Os nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cytuno ar raglen ariannu, bydd yn rhaid inni ddod o hyd i £600 miliwn o gyllidebau dros y 10 i 15 mlynedd nesaf – arian sydd wedi dod atom i adeiladu ysbytai, adeiladu ffyrdd, adeiladu ysgolion, a gwneud llawer o bethau eraill,” meddai.

“Oni bai bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn anrhydeddu ei dyletswyddau i’r bobl yn y cymunedau glofaol sy’n byw ger yr hen dipiau glo hyn, ac yn derbyn y cyfrifoldeb, fe fydd yn fradychiad arall eto gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig.”

Aberfan

Nodi 55 mlynedd ers trychineb Aberfan

Mae nifer wedi rhoi eu teyrngedau, gan gynnwys y prif weinidog Mark Drakeford

“Cyfrifoldeb cyfreithiol a moesol” ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ariannu gwaith ar domennydd glo Cymru

“Mae’r problemau a etifeddwyd yn sgil cloddio am lo yn effeithio’n anghymesur ar Gymru,” medd Rebecca Evans y Gweinidog Cyllid

Podlediad newydd yn trafod trychineb Aberfan a’r anghyfiawnder ddaeth wedyn

“Mae lleisiau lleol yng nghanol y podlediad, a gobeithiwn y bydd yn gwneud cyfiawnder â’u straeon a’r rhai a gollwyd”