Mae’r dyn wnaeth drefnu taith yr awyren lle bu farw’r pêl-droediwr Emiliano Sala wedi dweud “nad oes diwrnod nag awr yn mynd heibio” pan nad yw’n meddwl am y digwyddiad.

Mae David Henderson, 67, o Hotham yn Swydd Efrog, gerbron llys ar gyhuddiad o beryglu diogelwch awyren.

Dywedodd wrth y rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd heddiw (21 Hydref), ei fod wedi cael ei “effeithio’n ddrwg” wedi’r ddamwain.

Mae’r llys eisoes wedi clywed ei fod ‘wedi torri corneli am resymau ariannol’ drwy gyflogi peilot nad oedd yn gymwys i hedfan yr awyren.

Plymiodd yr awyren i’r môr ym mis Ionawr 2019, gan ladd Emiliano Sala, a oedd ar fin cwblhau ei drosglwyddiad o Nantes i Gaerdydd, a’r peilot David Ibbotson, oedd yn 59 oed.

Sefyllfa “enbydus”

Dywedodd David Henderson ei fod ar wyliau gyda’i wraig ym Mharis pan gysylltodd yr asiant William “Willie” McKay eisiau iddo hedfan i Nantes, ond dywedodd wrtho na allai wneud.

Roedd yn adnabod Willie McKay ers nifer o flynyddoedd, ac wedi llogi awyrennau iddo ar sawl achlysur, meddai wrth y llys.

Dywedodd nad oedd yn gwybod pwy oedd Emiliano Sala gan nad oedd ganddo “unrhyw ddiddordeb mewn pêl-droed”.

Gallai Willie McKay fod yn “daer”, meddai David Henderson wrth y llys, ac felly fe wnaeth gynnig dod o hyd i beilot arall.

Ffoniodd David Ibbotson, a “ddywedodd iawn yn syth”, meddai.

Er mai ef oedd wedi trefnu’r daith gyda Willie McKay, David Ibbotson oedd yn gyfrifol am ddiogelwch yr awyren yn y pen draw, meddai.

“Fy mwriad i oedd gadael hynny iddo fe [Mr Ibbotson]. Roedd e wedi cymryd cyfrifoldeb dros bopeth yn ymwneud â’r hediad,” meddai David Henderson.

Dywedodd nad oedd yn poeni am allu David Ibbotson i hedfan, ac fe’i disgrifiodd fel peilot “profiadol”.

Ychwanegodd ei fod yn “wedi’i gysuro” am bryderon gododd David Ibbotson am fecanwaith yr awyren gan ei bod hi wedi cael ei harchwilio gan beiriannwr Ffrengig ar ôl glanio yn Nantes.

Ar ôl clywed y newyddion bod rheolwyr traffig awyr wedi colli cysylltiad â’r awyren, dywedodd David Henderson ei fod yn “poeni’n fawr iawn. Mewn trallod, â dweud y gwir. Roeddwn i’n ofni’r gwaethaf”.

“Yr holl sefyllfa, colli’r awyren, rhywun roeddwn i’n ei adnabod, a theithiwr… [mae’n sefyllfa] enbydus.

“Cefais fy effeithio’n ddrwg gan y newyddion.”

Clywodd y llys fod yr heddlu wedi’i arestio yn ei gartref ym mis Mehefin 2019, ychydig cyn dathlu pen-blwydd ei ferch.

“Roedd yn sioc. Doeddwn i methu teimlo dim,” meddai.

“Dw i wedi poeni’n fawr. Does dim diwrnod nag awr yn mynd heibio lle nad yw hyn ar fy meddwl.”

“Teimladau yn glir”

Dywedodd Fay Keely, perchennog yr awyren, wrth y llys ddoe (20 Hydref) ei bod hi wedi dweud wrth David Henderson na ddylai David Ibbotson hedfan yr awyren eto ar ôl iddi gael gwybod gan yr Awdurdod Hedfan Sifil am ddwy drosedd oedd wedi digwydd tra’r oedd e’n hedfan yr awyren.

“Cyn belled ag oeddwn i yn y cwestiwn, fe wnes i fy nheimladau’n glir na ddylai e fod yn hedfan yr awyren.”

Fodd bynnag, dywedodd David Henderson ei fod wedi ffonio Fay Keely, ar ôl derbyn y cyfarwyddyd ganddi dros e-bost, er mwyn esbonio’r sefyllfa.

Dywedodd ei fod wedi newid ei meddwl hi ynghylch David Ibbotson.

“Dywedais ei fod e [David Ibbotson] â chywilydd, ac wedi cyfaddef ei gamgymeriad, ac na fyddai’n digwydd eto.

“Dw i’n credu imi newid ei meddwl am David Ibbotson.”

Clywodd y llys fod David Henderson wedi cael ei drwydded beilot breifat yn 1983 ar ôl gwasanaethu gyda’r Awyrlu Brenhinol am ddwy flynedd, cyn cael trwydded fasnachol yn y Deyrnas Unedig ac America wedyn.

Dywedodd ei fod wedi defnyddio’r drwydded i fod yn gyd-beilot, a theithio “dros y byd i gyd, yn llythrennol”.

Mae’r achos llys yn parhau.

Peilot Emiliano Sala ‘wedi torri corneli am resymau ariannol’

Plymiodd yr awyren oedd yn cludo pêl-droediwr newydd Caerdydd i’r môr, gan ladd yr Archentwr